Democratiaeth a Chynaliadwyedd

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

19 Mawrth 2014

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad a chyn Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol yn amlinellu gwaith y Pwyllgor ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 20 Mawrth 2014.

Mae’r ddarlith “Democratiaeth a Chynaliadwyedd” yn rhan o gyfres ddarlithoedd Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W) a bydd yn dechrau am 6.30 yr hwyr ym Mhrif Ddarlithfa Bioleg, Adeilad Edward Llwyd ar Gampws Penglais.

Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i aelodau’r cyhoedd.

Sefydlwyd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r cylch gorchwyl o archwilio deddfwriaeth a sicrhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru drwy sgrwtineiddio gwariant, gweinyddiaeth a materion polisi yn ymwneud â chynnal, datblygu a chynllunio amgylchedd naturiol Cymru a’i hadnoddau ynni.

Dafydd Elis-Thomas oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionydd ym Mai 2007, wedi iddo gynrychioli Meirionnydd Nant Conwy o 1999 tan 2007.

Bu’n Aelod Seneddol dros Feirionnydd o 1974 tan 1983, a Meirionnydd Nant Conwy o 1983 tan 1992.

Pan adawodd Dŷ’r Cyffredin, cafodd ei enwebu i Dŷ’r Arglwyddi yn 1992, a’i benodi yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1993 a 1999.

Cynhelir derbyniad diodydd cyn y ddarlith yn IBERbach o 6 tan 6.30 yr hwyr (yr adeilad drws nesaf i Adeilad Edward Llwyd).

Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.

AU5714