Archwilio’r Dyfodol
Arbrofi yn ystod gŵyl wyddoniaeth 2013.
17 Mawrth 2014
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu mwy na 1200 o ddisgyblion 25 o ysgolion o Geredigion, Powys a Gwynedd yr wythnos hon (18-20 Mawrth) ar gyfer Ffair Wyddoniaeth.
Mae'r ffair dridiau, sy’n cael ei threfnu bob blwyddyn gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2014 (14-23 Mawrth).
Cynhelir y Ffair Wyddoniaeth yn y Gawell Chwaraeon ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth a bydd yn agored i ysgolion o 9:30 y bore tan 3:00 y prynhawn am y tri diwrnod.
Mae Sesiwn dydd Mercher (19 Mawrth) wedi ei hymestyn tan 6 yr hwyr gyda gwahoddiad penodol i aelodau o'r cyhoedd i ymweld â'r Ŵyl.
Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg yw dathliad mwyaf Cymru a’r Deyrnas Gyfunol o bob peth sy’n ymwneud â gwyddoniaeth a pheirianneg.
Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Roger Morel o Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol: "Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at sut y mae gwaith y Brifysgol a llawer of asiantaethau lleol ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn berthnasol i fywyd pob dydd ac yn cynorthwyo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr gyda gweithgareddau hwyliog ac ymarferol.
“Addysg i bawb yw amcan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol. Rydym am i bobl, waeth beth yw eu cefndir neu oedran, gael cyfle i dderbyn addysg uwch, ac yn aml dod â phobl i’r Campws ar gyfer digwyddiad o'r fath yw'r cam cyntaf yn y daith addysg.”
“Thema’r Ffair Wyddoniaeth yw ‘Archwilio’r Dyfodol’. Mae'r Ffair Wyddoniaeth hefyd yn gyfle i ddangos y gwaith gwyddonol rhagorol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn ehangu gwybodaeth o wyddoniaeth ymhlith plant ysgol a dangos iddynt pa mor bwysig yw yn ein bywydau ni i gyd.”
Bydd y rhai sy'n mynychu'r ŵyl yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o arddangosiadau a gweithgareddau ynghyd â chyfle i gyfarfod ag anifeiliaid gwyllt, deall llosgfynyddoedd a newid yn yr hinsawdd, ac astudio lluniau 3-D o'r Haul.
Bydd yr Ŵyl yn cynnwys stondinau rhyngweithiol o adrannau Mathemateg a Ffiseg, Cyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Bioleg a Gwyddorau Gwledig y Brifysgol, yn ogystal â Chyngor Sir Ceredigion a'r RSPB.
AU10914