Deddfu gwyllt a chreu troseddwyr
Yr Athro James Chalmers
11 Mawrth 2014
Bydd Yr Athro James Chalmers, Athro Cyfraith Regius ym Mhrifysgol Glasgow, yn traddodi darlith ar y pwnc ‘Frenzied Law Making and Overcriminalisation: false problems and false solutions’ ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 12 Mawrth 2014.
Cynhelir Darlith Y Gyfraith a Chymdeithas am 7 yr hwyr ym Medrus Mawr, Penbryn ar Gampws Penglais.
Cyhuddwyd llywodraeth Llafur Newydd o fynd ati’n wyllt i wneud deddfau a chreu trosedd bob dydd y buont mewn grym.
Oherwydd hyn, daeth y flaenoriaeth i’r llywodraeth gyfredol i roi terfyn ar y llanw tybiedig o droseddoli.
Ond y gwir amdani yw bod ein dealltwriaeth o droseddoli mor wael – a throseddau mor hawdd eu creu – mai ychydig a wyddom am y broblem dybiedig, heb sôn am yr hyn a allai ei datrys.
Bydd y ddarlith hon yn archwilio’r cyhuddiadau ynglŷn â gordroseddoli a waned yn erbyn llywodraethau diweddar, gan ddadlau bod camddeall problem gordroseddoli yn golygu bod y gwaith a waned gan y llywodraeth i’w ymladd yn sicr o fethu.
Penodwyd James Chalmers i Gadair Frenhinol y Gyfraith ym Mhrifysgol Glasgow yn 2012, ar ôl bod yn dysgu cyn hynny ym Mhrifysgolion Aberdeen a Chaeredin.
Graddiodd o Brifysgol Aberdeen a Phrifysgol Tulane, yn New Orleans.
Yn 2012, dyfarnwyd un o Wobrau Philip Leverhulme iddo am ei ymchwil ym maes troseddoli.
AU11214