Aberystwyth ymysg goreuon y byd
Aberystwyth ymysg 200 o sefydliadau gorau’r byd mewn 4 o'r 30 pwnc yn QS World University Rankings 2014.
10 Mawrth 2014
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymddangos ymysg 200 o sefydliadau gorau’r byd mewn 4 o'r 30 pwnc sydd wedi eu cynnwys eleni yn y QS World University Rankings.
Cyhoeddwyd y canlyniadau ar www.topuniversities.com .
Mae Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y 100 uchaf, ac wedi dringo o safle yn y 150 uchaf yn 2013.
Mae Gwleidyddiaeth yn ymddangos yn y 150 uchaf, ac wedi codi o fod yn y 200 uchaf yn 2013, ac mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth wedi cadw ei le ymhlith y 150 uchaf.
Mae Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn ymddangos yn y 150 uchaf am y tro cyntaf.
Mae rhestr QS World University Rankings yn ôl pwnc yn cyfuno gwybodaeth o arolygon enw da academaidd a chan gyflogwyr, a nifer y cyfeiriadau o bapurau academaidd.
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Cyfarwyddwr Athrofa Daearyddiaeth Hanes a Gwleidyddiaeth: “Rwy'n falch iawn bod ymdrechion cydweithwyr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cael eu cydnabod, ac wedi’u canmol yn y gynghrair nodedig hon o brifysgolion o bob rhan o'r byd.”
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: “Rydym yn hynod falch o safon yr ymchwil ac addysgu yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bod y QS World University Rankings yn cadarnhau ein sefyllfa ymhlith y mwyaf blaenllaw yn y byd. Mae'n arbennig o dda nodi bod Aberystwyth yn dal ei thir ac yn gwella ei safle fel sefydliad pwysig yn rhyngwladol.”
Ar gyfer pedwerydd rhifyn y QS World University Rankings yn ôl pwnc gwerthuswyd 2,838 o brifysgolion, rhestrwyd 689 sefydliad yn ôl safle, dadansoddwyd 130 miliwn o gyfeiriadau academaidd a gwiriwyd 10,639 o raglenni.
AU10814