Porth byd-eang ar gyfer ymchwil

Mae ED Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe

Mae ED Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe

05 Mawrth 2014

Mae porth gwe sy’n dod ag ymchwil Cymru a busnes byd-eang at ei gilydd yn dechrau gweithredu ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth 2014).

Mae ED Cymru (www.walesip.com) yn gweithredu fel porthol ar gyfer buddsoddwyr posibl, trwy eu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd arloesol a ddatblygwyd gan bum prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ymchwil.

Y safle yw wyneb cyhoeddus y Prosiect Cydweithio Eiddo Deallusol (IPCoP) rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. 

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth  “Mae Prifysgol Aberystwyth wrth ei bodd yn meithrin cysylltiadau â chydweithwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru i ddarparu llwyfan, drwy’r porth newydd hwn, i arddangos ein heiddo deallusol pwysig a sut y gellir manteisio arno. Mae ein portffolios yn dangos ehangder ein gwybodaeth gyfunedig sydd ar gael i’w rhoi ar waith ym myd diwydiant ac mewn sectorau eraill ac rwyf yn falch iawn o gael annog partneriaid posib i edrych ar y wefan werthfawr hon.”

Ariennir y cydweithio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Gan ddefnyddio ymchwil blaenllaw ac arbenigedd eang y sefydliadau hyn, nod IPCoP yw gyrru’r economi wybodaeth yng Nghymru ymlaen, a oedd yn werth £177 miliwn yn 2011-12.

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae prifysgolion yn cyfrannu miliynau at economi Cymru trwy ganiatáu trwyddedau, ffeilio patentau a chreu cwmnïau deillio, yn ogystal â darparu gwasanaethau a gwybodaeth arbenigol ar gyfer mentrau sy’n bodoli eisoes. Mae’n bleser gennym allu cefnogi’r cydweithio hwn, a fydd yn galluogi cwmnïau i leoli arbenigedd yn fanwl yn y pum prifysgol dan sylw yn hawdd. Rydym ni’n gobeithio y bydd y porth newydd hwn yn sbarduno twf mewn masnacholi eiddo deallusol, a fydd o les i’r economi ac yn gwella enw da ein prifysgolion ymhellach fel canolfannau arbenigedd sylweddol.”

Mae ED Cymru yn darparu cyrchfan un stop i fuddsoddwyr neu gwmnïau sy’n chwilio am geisiadau masnachol, gan weithredu fel porth i 95% o ymchwil yr ardal. Mae’n helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i eiddo deallusol a nodi meysydd cydweithio.

Mae IPCoP yn dod ynghyd â rhwydwaith o Swyddogion Trosglwyddo Technoleg sy’n gallu nodi, diogelu a masnacholi ymchwil Cymru, i gefnogi economi Cymru ac adeiladu ‘diwylliant arloesedd’.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu, nododd IPCoP dechnolegau newydd lluosog sydd â photensial cryf, a sicrhawyd dros £1.1 miliwn o incwm trosiadol. Mae gan y bartneriaeth gryfderau mewn diogelwch bwyd, ynni a’r amgylchedd, iechyd a biowyddorau, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, yr economi ddigidol a diwydiannau creadigol.

Bydd y pum prifysgol a’u cwmnïau partneriaeth yn elwa ar ED Cymru. Mae hefyd yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru i ysgogi twf economaidd trwy fasnacholi ymchwil a datblygu.

AU10014