Perfformiad cyntaf cerddoriaeth goll
Dr David Russell Hulme
05 Mawrth 2014
Diolch i ymchwil gan Dr David Russell Hulme, Cyfarwyddwr Cerdd a Darllenydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe fydd BBC Radio 2 yn darlledu perfformiad cyntaf o gân goll gan Gilbert a Sullivan.
Bydd y rhaglen Friday Night is Music Night, sy’n eithriadol o boblogaidd ar draws y byd, yn cyflwyno noson o gerddoriaeth Gilbert a Sullivan ar nos Wener 7 Mawrth.
Bydd y rhaglen yn cynnwys nifer o ganeuon a ail-grewyd gan Dr Hulme o ddeunydd anghyflawn. Ystyrir Dr Hulme yn awdurdod mwyaf blaenllaw’r byd ar lawysgrifau Sullivan.
Mae'r perfformiad cyntaf hwn o faled ar gyfer y brif gontralto yn The Sorcerer. Cafodd ei thorri cyn y perfformiad cyntaf yn 1877 mewn ymgyrch i dynhau'r gwaith ac ni chafodd erioed ei chlywed yn gyhoeddus o’r blaen.
Goroesodd y geiriau ond taflwyd y deunydd cerddorol, a chredwyd ei fod wedi’i golli hyd nes i set anghyflawn o ddarnau cerddorfaol ddod i’r wyneb yn ddiweddar. O'r rhain, fe wnaeth Dr Hulme ail-greu sgôr gerddorfaol gyflawn ynghyd â rhan y llais.
“Nid yw ail-greu o'r math hwn yn ymwneud â chyfansoddi alaw yn yr arddull cywir sy'n cyd-fynd yn berffaith gyda’r darnau sydd wedi goroesi”, meddai Dr Hulme.
“Mae'n ymwneud ag adnabod awgrymiadau a chliwiau, gan feddwl yn ddargyfeiriol nid yn unig am oblygiadau'r nodiadau sydd yn bresennol ond y rhai hefyd sydd wedi’u hepgor. Mae'n eithaf tebyg i ail-greu wyneb o olion ysgerbydol gan ddefnyddio dulliau fforensig.
“Mae'r faled hon o The Sorcerer yn ddarn diymhongar ond swynol serch hynny. Rwy'n hyderus fy mod wedi ei hail-greu gyda digon o gywirdeb i’w galw yn gyfansoddiad gan Sullivan yn hytrach na fy hun!”
Mae Dr Hulme yn arbenigo mewn gwaith ail-greu o'r math hwn gyda chyfansoddwyr eraill yn ogystal â Sullivan. Perfformiwyd ei waith, sy’n hynod ganmoladwy, yn eang, yn ogystal â’i recordio a’i ddarlledu. Bydd fersiwn o gân ar gyfer y Dug yn Patience, a ail-grewyd ganddo, ac sydd yn cael ei hail-gynnwys mewn perfformiadau yn aml, hefyd ar y rhaglen, ynghyd â chân o The Yeomen of the Guard, a gafodd ei 'chywiro' gan Dr Hulme o sgoriau diffygiol.
Fe fydd Dr Hulme hefyd yn cael ei gyfweld ar y rhaglen a fydd i’w chlywed eto ar wefan rhaglen Friday Night is Music Night: http://www.bbc.co.uk/programmes/b006wrrv/broadcasts/upcoming
Penodwyd Dr Hulme yn Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth yn 1992. Fel arweinydd, mae wedi ymddangos ar lwyfannau mawr ledled Prydain, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada, a gydag Opera Brenhinol Canada, Gŵyl Christchurch (Seland Newydd) a Gŵyl Ryngwladol G&S Buxton.
Fe’i disgrifir yn Opera fel 'awdurdod blaenllaw ar lawysgrifau Sullivan', ac mae wedi ymwneud a chynyrchiadau gyda chwmnïau opera blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, English National Opera, New Sadler Wells a D'Oyly Carte, yn ogystal ag eraill yn America ac Awstralia.
AU8014