Campws Mauritius
Delwedd gan artist o’r campws preswyl sydd yn cael ei gynllunio ar gyfer campws Quartier Militaire
04 Mawrth 2014
Ar ddydd Mawrth 4 Mawrth cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei huchelgais i agor campws newydd ym Mauritius.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, mewn cynhadledd a drefnwyd gan Fwrdd Buddsoddi Mauritius yn Llundain.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda chwmni o Mauritius, Boston Campus Limited, ac yn bwriadu lansio pedair o raglenni gradd israddedig ac un rhaglen ôl-raddedig MSc ar gyfer Medi 2014. Mae hyn yn amodol ar achrediad gan Comisiwn Addysg Trydyddol Mauritius.
Mae'r rhaglen hefyd yn amodol ar gymeradwyaeth gan Senedd Prifysgol Aberystwyth.
Mae'r rhaglenni academaidd arfaethedig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15 yn raddau BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid; Cyllid Busnes; Rheolaeth Busnes; Rheolaeth gyda’r Gyfraith a'r radd meistr MSc mewn Busnes Rhyngwladol. Mae pob un ohonynt yn cael eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd.
Y bwriad ar gyfer Medi 2014 yw darparu'r cyrsiau mewn adeiladau sy’n cael eu rhedeg gan Boston Campus Limited yn CyberCity, Ebène, 15 km i'r de o'r brifddinas, Port Louis.
Mae cynlluniau hefyd yn cael eu datblygu gyda Boston Campus Limited i adeiladu campws preswyl modern ar gyfer hyd at 2000 o fyfyrwyr yn Quartier Militaire, 12km i mewn i'r tir o'r brifddinas Port Louis.
Rhagwelir y bydd campws newydd Quartier Militaire yn agor mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015, a hynny’n amodol ar gymeradwyaeth derfynol gan Gyngor Prifysgol Aberystwyth.
O dan y trefniant hwn byddai'r myfyrwyr sy’n astudio ar gampws Mauritius Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau'r un statws â'u cymheiriaid yn Aberystwyth, ac ar ôl cwblhau eu cyrsiau'n llwyddiannus yn derbyn graddau Prifysgol Aberystwyth.
Byddai'r holl raglenni israddedig ac ôl-raddedig a fyddai’n cael eu cynnig ar Gampws Mauritius yn dilyn yr un prosesau sicrhau ansawdd sy'n cael eu defnyddio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Er mwyn sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth a meithrin perthynas waith agos, byddai staff academaidd a gweinyddol o Aberystwyth yn treulio amser yn gweithio ar y campws ym Mauritius, a staff o Mauritius yn cael eu hannog i dreulio amser yn gweithio yn Aberystwyth.
Yn yr un modd, byddai myfyrwyr a fyddai’n dymuno trosglwyddo i Aberystwyth o Mauritius yn gallu gwneud hynny, ac yn cael cynnig y dewis o fynychu seremonïau graddio yn Aberystwyth neu Mauritius, wedi iddynt gwblhau eu cwrs yn llwyddiannus.
Byddai gofyn i bob myfyriwr sy'n dilyn rhaglenni gradd Prifysgol Aberystwyth ar gampws Cangen Mauritius gyrraedd y safon IELTS (International English Language Testing System) arferol a osodir gan y Swyddfa Gartref (Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Gyfunol) a Phrifysgol Aberystwyth.
Fel rhan o’r hyn sy’n cael ei ystyried, byddai tîm Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth yn cynghori ar ddatblygu cyfleusterau TG a llyfrgell a byddai'r myfyrwyr hefyd yn cael mynediad i Blackboard, cynefin dysgu rhithwir y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro April McMahon; “Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Boston Campus Ltd ar y datblygiad cyffrous hwn. Mae Mauritius ar y groesffordd rhwng cyfandiroedd Affrica ac Asia ac mewn lleoliad delfrydol i ddenu myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dilyn addysg prifysgol o safon uchel, ond heb fedru teithio i’r Deyrnas Gyfunol. Mae’r wlad hefyd yn mwynhau sefydlogrwydd gwleidyddol ac yn cynnig amgylchedd diogel i fyfyrwyr rhyngwladol.
“Mae cynlluniau uchelgeisiol gan Lywodraeth Mauritius i sefydlu'r wlad fel canolbwynt gwybodaeth ryngwladol a denu 100,000 o fyfyrwyr i astudio yno dros y 10 mlynedd nesaf. Yr ydym ni ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen at weithio gyda Gweinidogaeth Addysg Drydyddol, Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thechnoleg y Llywodraeth, a Boston Campus Ltd er mwyn eu cynorthwyo i wireddu'r weledigaeth hon.”
“Mae'r datblygiad hwn yn cyd-fynd gyda’n hamcanion strategol i ‘Greu cyfleoedd’ ac ‘Ymgysylltu â'r byd’ drwy ‘gydweithio yn genedlaethol ac yn fyd-eang ’. Mae campws Mauritius Prifysgol Aberystwyth yn enghraifft ardderchog o sut y gallwn alluogi'r rhai sydd yn gwerthfawrogi ansawdd gradd o’r Deyrnas Gyfunol i astudio mewn canolfan ranbarthol neu sefydliad partner mewn ffordd sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch iddynt.”
Wrth sefydlu cangen campws ym Mauritius, Prifysgol Aberystwyth fyddai’r brifysgol dramor uchaf ei safle i weithredu yn y wlad.
AU7814