Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

25 Chwefror 2014

Fel rhan o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y Brifysgol mis nesaf, fe fydd un o'r darlithoedd Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar fywyd Anka Bergman a oroesodd yr Holocost, a aned iddi ferch mewn gwersyll Natsïaidd yn 1945 ac a ddaeth i Gymru yn dilyn y rhyfel.

Cyflwynir y ddarlith, Poetry of memoir: Testimonial from a Female Holocaust Survivor, gan Frances Rapport, Athro Ymchwil Iechyd Ansoddol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, ar ddydd Iau 6 o Fawrth.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau o ddydd Llun 3 tan ddydd Sul 9 Mawrth gan gynnwys darlithoedd, darlleniadau, trafodaethau, gweithdai, teithiau cerdded a chystadlaethau sydd wedi cael eu cyd-drefnu gan Adran Seicoleg y Brifysgol.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys dadl ar y pwnc ‘Merched mewn Gwyddoniaeth’, sesiynau darllen agored gyda staff a myfyrwyr o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, â noson o ganu a llefaru yng Nghwmni Theatr Arad Goch.

Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau ar gael yma: http://www.aber.ac.uk/cy/psychology/womens-day/

Esboniodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol, "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cyfle cyfartal i bob aelod o staff a myfyriwr yn y Brifysgol. Mae'r prinder menywod mewn swyddi uwch yn academia yn broblem genedlaethol sydd yn arbennig o ddifrifol mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).

“Un o nodweddion allweddol ein gwaith ym maes cydraddoldeb yn y Brifysgol yw cefnogi ac annog menywod i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae ein hwythnos o ddigwyddiadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn ddathliad o’r hyn y maent wedi ei gyflawni, eu profiadau a’u safbwyntiau.

"Mae’n ffordd o danlinellu cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd gan fenywod mewn ffordd hwyliog a dymunol ac mae ystod eang o weithgareddau yn cymryd lle yn ystod y saith diwrnod. Hoffwn annog pawb yn y Brifysgol a'r gymuned ehangach i gymryd golwg ar ein gwefan am fwy o wybodaeth am bob digwyddiad."

Ym mis Ebrill 2014 bydd y Brifysgol yn gwneud cais am Ddyfarniad Efydd Sefydliadol Uned Her Athena SWAN ac ar yr un pryd bydd Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn gwneud cais am Wobr Efydd Adrannol.

Mae'r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu arfer da mewn recriwtio, cadw a dyrchafu menywod mewn pynciau STEMM o fewn addysg uwch.

Ochr yn ochr â chais Athena Swan, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn gwneud cais am Farc Siarter Uned Her Cydraddoldeb Rhyw (Equality Challenge Unit Gender Equality Chartermark (GEM) sydd ar gyfer staff academaidd, staff proffesiynol a chynorthwyol, adrannau adnoddau dynol, ymarferwyr cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn pynciau eraill nad ydynt yn rhai STEMM.

Ychwanegodd yr Athro Bullen, “Rydym yn awyddus i weld cynnydd yn y nifer o fenywod mewn gwyddoniaeth a chynorthwyo i oresgyn yr heriau sy'n wynebu pob menyw yma yn Aberystwyth wrth iddynt wneud y penderfyniad hwnnw o wneud cais am ddyrchafiad.”

"Yn genedlaethol ac yn lleol gwelwn fod menywod wedi eu tangynrychioli mewn gwyddoniaeth, yn enwedig mewn swyddi uwch. Rydym eisiau newid y sefyllfa honno drwy ddeall pam y gallai hyn fod, a beth y gellid ei wneud er mwyn cynorthwyo menywod i wireddu eu llawn botensial yn y gweithle.

AU7914