Y Brifysgol yn derbyn ymweliad Cynulliad Cymru
Y Pwyllgor yn ymweld ag IBERS
21 Chwefror 2014
Cynhaliwyd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon.
Mae gan y Pwyllgor gylch gwaith i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion yn ymwneud â gwariant, gweinyddiaeth a pholisi sy’n cynnwys: cynnal a datblygu amgylchedd ac adnoddau ynni naturiol Cymru.
Ymhlith yr arbenigwyr fu’n cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy oedd academyddion blaenllaw o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS). Cyflwynodd yr Athro Jamie Newbold a'r Athro Iain Donnison yr achos ar gyfer y Brifysgol, gan amlinellu’r dyfodol posibl i reoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru.
Esboniodd yr Athro Jamie Newbold: "Yn ein barn ni, mae angen i reoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru fod yn edrych i'r dyfodol. Rhaid i Gymru groesawu'r wybodaeth mae ymchwil ar ddefnydd tir ac ecosystemau yn darparu a’r cyfleoedd a ddarperir gan ddatblygiadau mewn planhigion ac anifeiliaid biotechnoleg.
"Rhaid i fferm y dyfodol ddarparu mwy o fwyd maethlon, o ran maint ac ansawdd, mewn ffordd sydd yn garbon-niwtral ac yn cydnabod ac yn parchu bod bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem yn rhyng-ddibynnol. Y brif her er mwyn cyrraedd y nod hwn yw'r angen i sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau sy’n cystadlu â'i gilydd, o ran diogelwch cyflenwad adnoddau, datblygu economaidd a chadwraeth amgylcheddol."
Yn ychwanegol at gynnal y Pwyllgor, darparodd y Brifysgol hefyd daith o amgylch y cyfleusterau diweddaraf ar Gampws IBERS y Brifysgol yng Ngogerddan, a arweinir gan yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Chyfarwyddwr dros dro IBERS. Roedd y daith yn cynnwys ymweliad â Chanolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, y Labordai Cymhwyso Genomeg a chyfleuster BEACON. Yn dilyn y daith, cafwyd cyfres o gyflwyniadau gan uwch academyddion y Brifysgol, gan ddarparu trosolwg o’r ystod eang o ymchwil ym maes cynaliadwyedd a wneir yn Aberystwyth.
Wrth groesawu'r Pwyllgor i'r Brifysgol, dywedodd yr Athro April McMahon: "Rwy’ wrth fy modd bod y Brifysgol wedi gallu cynnal y cyfarfod Pwyllgor pwysig hwn. Mae'r amgylchedd, cynaliadwyedd a chadwraeth ar raddfa leol a byd-eang o bwys mawr i Brifysgol Aberystwyth. Mae ein hymchwilwyr yn arwain nifer o ddatblygiadau ymchwil sy'n cael effaith sylweddol ar heriau byd-eang ac rwy’n falch bod ein cynrychiolwyr etholedig wedi gallu ystyried datblygiadau'r Brifysgol yn y maes."
Mae aelodau Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cymru yn cynnwys yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llyr Huws Gruffydd, William Powell, Antoinette Sandbach, Russell George, Julie James, Juile Morgan, Joyce Watson a Mick Antoniw.
AU8414