Mapio newid hinsawdd
Map o Ewrop yn dangos pa mor gyflym ac i ba gyfeiriad y mae hinsoddau lleol yn symud
10 Chwefror 2014
Yn ystod y ganrif nesaf bydd angen i blanhigion ac anifeiliaid addasu neu symud er mwyn dod o hyd i’w hinsawdd ddelfrydol mewn ymateb i gynhesu byd-eang.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolynNature, mae’r academydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Pippa Moore, ynghyd â thîm rhyngwladol o wyddonwyr o Awstralia, Canada, yr Almaen, Sbaen, y Deyrnas Gyfunol ac UDA, yn cyhoeddi mapiau byd-eang sy'n dangos pa mor gyflym ac i ba gyfeiriad mae hinsoddau lleol yn symud.
Mae'r astudiaeth newydd hon yn cyfeirio at ffordd symlach o edrych ar newidiadau yn yr hinsawdd a'u heffeithiau tebygol ar fioamrywiaeth.
“Mae'r mapiau yn dangos i ble y bydd yn rhaid i blanhigion ac anifeiliaid symud er mwyn parhau o fewn eu cilfachau thermol presennol a thrwy hynny ddilyn newid yn yr hinsawdd,” meddai Dr Pippa Moore o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.
Dadansoddwyd 50 mlynedd o ddata tymheredd wyneb y môr a’r tir (1960-2009) ar gyfer yr astudiaeth ac ystyriwyd dwy senario ar gyfer amgylcheddau morol ('busnes fel arfer' a chynnydd mewn tymheredd o 1.75°C).
Mae'r mapiau newydd hefyd yn dangos lle mae amgylcheddau thermol newydd yn cael eu creu yn lleol a lle y gallai amgylchiadau presennol ddiflannu.
“Mae’r ffordd y mae hinsoddau yn symud yn llawer mwy cymleth na mudo i gyferiad y pegynnau yn unig. Dengys ein hymchwil ni fod y rhai sy’n mudo oherwydd newid hinsawdd ac yn dilyn trywydd tymheredd yn cael eu rhwystro gan arfordiroedd er enghraifft. Gall y rhwystrai yma greu ardaloedd nad oes modd i’r mudwr hinsawdd gael mynediad iddynt,” dywedodd yr Athro Michael Burrows o Gymdeithas Gwyddoniaeth Môr yr Alban a phrif awdur y papur.
“Ar draws y Derynas Gyfunol, fel yng Nghymru, mae rhywogaethau eisoes yn ymateb i dymheredd cynhesach drwy ymestyn eu hardaloedd. Mae ein canlyniadau yn awgrymu y bydd cilfachau thermol yn ffurfio mewn rhai ardaloedd o ddyfroedd y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop lle bydd cynnydd tymor byr mewn bioamrywiaeth rhywogaethau sydd wedi mudo yn sgîl newid hinsawdd. Ar y llaw arall, bydd cilfachau thermol mewn ardaloedd megis Môr y Gogledd yn diflannu gan olygu y bydd rhaid i rywogaethau sy’n sensitif i hinsawdd sy’n cynhesu symud neu addasu, gan arwain o bosibl at leihau bioamrywiaeth ac adrefnu ecosystemau,” dywedodd Dr Moore.
“Nid oes modd defnyddio’r astudiaeth hon er mwyn rhagweld yn bendant sut y bydd planhigion ac anifeiliaid yn ymateb i newid hinsawdd yn y dyfodol,” dywedodd Dr Jorge García Molinos, cyd-awdur ar y papur.
"Mae angen ystyried ffactorau biolegol megis gallu rhywogaeth i addasu ac ymledu. Ond, mewn cyfnod o newid cyflym yn yr hinsawdd ar blaned sydd eisoes dan bwysau, mae angen brys i lywodraethau ledled y byd i ddatblygu cynlluniau y gellir eu haddasu er mwyn sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau a ddarperir drwy systemau naturiol neu amaethyddol yn parhau yn gynaliadwy. Gall ein gwaith ymchwil ddarparu mewnwelediad i gilfachau hinsawdd y dyfodol er mwyn cefnogi datblygiad cynlluniau rheoli o’r fath.”
Gallwch weld beth sy'n digwydd yn eich iard gefn drwy lawrlwytho ffeiliau Google Earth o’r wefan: http://www.sams.ac.uk/michael-burrows
Mae Dr Pippa Moore yn ddarlithydd mewn Bioleg y Dŵr yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Mae’n ecolegydd cymuned môr ac mae ganddi ddiddordebau ymchwil penodol mewn deall effaithiau pobl ar fioamrywiaeth môr, ynghyd â strwythyr a gweithrediad systemau dŵr bâs.
AU6314