Beth yw diben cael trefn seneddol?
Paul Evans
07 Chwefror 2014
Heno (dydd Gwener 7 Chwefror), ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd Paul Evans, Prif Glerc y Swyddfa Gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, yn trafod tarddiad a datblygiad y rheolau sy'n llywodraethu’r trafod yn Nhŷ'r Cyffredin.
Bydd Mr Evans yn asesu effaith digwyddiadau allanol wrth lunio'r rheolau hyn ac effaith y rheolau ar afael y Senedd ar ddigwyddiadau allanol.
Teitl y ddarlith yw ‘A Rule To Go By: What is the Point of Parliamentary Procedure?’ ac fe gynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 6pm.
Bydd y ddarlith yn olrhain tarddiad a datblygiad y rheolau sy'n llywodraethu’r dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin. Bydd yn gofyn a yw'r rhain yn fframwaith angenrheidiol ar gyfer democratiaeth seneddol, yn ffrwyn i gyfyngu ar anghytuno go iawn ac atal dadl resymol, neu’n fodd o godi gwrychyn yr etholaeth. Ydyn nhw’n rhan o broblem ymddieithrio gwleidyddol ac, os felly, a oes unrhyw ateb amlwg?
Dywedodd Dr Jenny Mathers, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, "Mae Prifysgol Aberystwyth a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn falch iawn cynnal y ddarlith gyhoeddus yma ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Estyn Allan Seneddol. Mae'r Gwasanaeth Estyn Allan yn cynnal nifer o ddarlithoedd bob blwyddyn tu allan i Lundain, mewn prifysgolion lleol, sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o waith y Senedd.
"Mae Paul Evans yn berson gwych i gyflwyno’r ddarlith hon. Mae’n arbenigwr yng ngwaith y Senedd ac ymunodd â'r Tŷ'r Cyffredin ym 1981 a gwasanaethodd mewn amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys Prif Glerc Pwyllgorau Dethol, Pennaeth yr Uned Craffu a Chlerc y pwyllgorau Hawliau Dynol, Amddiffyn ac Iechyd.
"Bu’n cynghori Comisiwn Gymdeithas Hansard ar Rôl Archwiliad Seneddol yn 2000 ac mae ar fwrdd golygyddol Parliamentary Affairs. Mae'r staff a'r myfyrwyr yn yr Adran yn edrych ymlaen yn fawr at glywed ei ddehongliad ar y broses deddfu.”
Mae Prifysgol Aberystwyth a'r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn falch o gynnal y ddarlith gyhoeddus hon ar y cyd â Gwasanaeth Estyn Allan San Steffan.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar ôl y ddarlith am 7pm ac mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.
AU4014