Arwyddocâd cyfraith ryngwladol wrth lunio polisii

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

05 Chwefror 2014

Ym Mhrifysgol Aberystwyth heno (dydd Iau 6 Chwefror), bydd Iain Macleod, Ymgynghorydd Cyfreithiol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, yn asesu arwyddocâd cyfraith ryngwladol yn y broses o lunio polisïau.

Cynhelir y ddarlith yn y Brif Neuadd yn yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a bydd yn amlinellu barn uwch gynghorydd cyfreithiol y Swyddfa Dramor ar fater hollbwysig y dydd - y rhan y mae cyfraith ryngwladol yn ei chwarae wrth lywio ymddygiad gwledydd, y pwerus a'r gwan, y cyfoethog neu’r tlawd, y newydd neu’r hynafol.

Yn ogystal ag asesu arwyddocâd cyfraith ryngwladol yn y broses o lunio polisïau, fe fydd y sgwrs hefyd yn adlewyrchu'r buddiannau, sy’n cystadlu â’i gilydd weithiau, sef yr hyn y mae'r Wladwriaeth eisiau a'r hyn y gall ei wneud mewn gwirionedd: gwerth cyfraith ryngwladol fel grym er daioni a sefydlogrwydd mewn amgylchiadau geowleidyddol sy’n esblygu’n gyflym, swyddogaeth y gyfraith ryngwladol mewn sefyllfaoedd o berygl ac ansicrwydd, megis rhyfel cartref Syria, bygythiadau i’r amgylchedd, terfysgaeth a mudo gorfodol.

Eglurodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, "Er ein bod yn ymwybodol o'r nifer o ddeddfau cartref sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd, nid yw rhan y gyfraith ryngwladol mor eglur. Mae gwladwriaethau’n aml yn troi at y gyfraith ryngwladol i gyfiawnhau neu i esgusodi eu hymddygiad, neu i gyhuddo gwladwriaethau arall o gamwedd.

"Pa mor bwysig yw cyfraith ryngwladol mewn cysylltiadau rhyngwladol? Ac a yw’n dylanwadu ar ymddygiad gwladwriaethau? I ba raddau y mae'n diogelu gwladwriaethau gwannach rhag y rhai mwy pwerus? Mae llawer o gwestiynau yn cwmpasu swyddogaeth cyfraith ryngwladol yn nhirwedd ryngwladol gymhleth y byd heddiw.

"Ac yntau’n Ymgynghorydd Cyfreithiol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad mae Iain Macleod mewn sefyllfa eithriadol o dda i roi cipolwg ar swyddogaeth y gyfraith ryngwladol mewn cysylltiadau rhyngwladol. Mae hon yn ddarlith hanfodol i unrhyw un sydd eisiau deall mwy am y ffordd y mae'r gymuned ryngwladol yn gweithio."

Cafodd Iain Macleod ei dderbyn yn gyfreithiwr yn 1987 a bu mewn aml i swydd o fewn adrannau'r Llywodraeth ers hynny. Yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, bu'n gweithio yng Nghynrychiolaeth y DU i'r Comisiwn Ewropeaidd ac yng Nghenhadaeth y DU i'r Cenhedloedd Unedig (roedd yn gynghorwr cyfreithiol i genhadaeth y DU i'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd rhwng 2001 a 2004).

Wedi hynny, roedd yn Ddirprwy Gynghorydd Cyfreithiol yn y Swyddfa Gartref ac yna Ymgynghorydd Cyfreithiol, Adran Ymgynghorol Ganolog, Adran Cyfreithiwr y Trysorlys, cyn cychwyn yn ei swydd bresennol yn Ymgynghorydd Cyfreithiol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o 6.30pm ymlaen a bydd y ddarlith yn dechrau am 7pm ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.

AU3514