Galw ar ysgolion uwchradd Ceredigion
Plant ysgol uwchradd yn gwneud y mwyaf o sesiynau yn y labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth
05 Chwefror 2014
Mae Prifysgol Aberystwyth yn galw ar bob ysgol uwchradd yng Ngheredigion i fanteisio ar gronfa gwerth £30,000 sy'n galluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol ag ymchwilwyr mewn pynciau sy’n cynnwys bioleg, cemeg, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, chwaraeon a gwyddor chwaraeon.
Mae’r arian wedi cael eu gwneud yn bosib drwy Fenter Partneriaeth Ysgolion Prifysgol (SUPI) a gyllidir ac a weinyddir gan EPSRC a Chynghorau Ymchwil y DG (RCUK).
Mae’r fenter tair blynedd, SusNet Cymru, yn galluogi Sefydliadau Addysg Uwch i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd a cholegau http://www.rcuk.ac.uk/pe/PartnershipsInitiative
Un o'r ysgolion sydd eisoes wedi elwa o'r prosiect hwn fel rhan o gynllun peilot y llynedd yw Ysgol Penglais, a welodd eu myfyrwyr Lefel A yn elwa o sesiynau yn yr ysgol gyda darlithwyr o Aberystwyth dros gyfnod o chwe mis.
Dywedodd Dr Elizabeth Hart, sy'n gweithio i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ogystal â’r cynllun hwn, "Mae'r prosiect yn anelu at ysbrydoli pobl ifanc, ysgogi myfyrwyr a gwella eu profiad o ymchwil gyfoes.
"Yr hyn wnes i ddarganfod wrth gymryd modiwl bioleg a chemeg gyda myfyrwyr Penglais oedd eu bod yn ffynnu ar sesiynau ymarferol fel arbrofion gan eu bod yn gweld newidiadau yn digwydd o’u blaenau.
"Rydym yn gweithio gyda'r ysgol i sefydlu'r ffordd orau o ddysgu modiwl sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac rydym yn awyddus i gynnwys pob ysgol uwchradd yng Ngheredigion yn y prosiect hwn dros y ddwy flynedd nesaf."
Mae’r Brifysgol mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu partneriaeth o'r fath gydag ysgolion Cymru o ran darparu cyfleoedd heb eu hail i ymchwil o'r radd flaenaf ynghyd â'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Eglurodd Sarah Payne, pennaeth y 6ed dosbarth Ysgol Penglais; “Mae'r sesiynau hyn gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi bod yn hynod o werthfawr i'r disgyblion sydd wedi gweld y modiwlau i fod yn hynod o ddiddorol.
“Yn ogystal â bod yn addysgiadol, mae'r sesiynau wedi bod yn hwyl ac anffurfiol ac mae darlithwyr y Brifysgol wedi bod o gymorth ac yn gefnogol iawn i’r disgyblion. Mae cael yr adnodd hwn ar garreg drws o fudd mawr i ni ac rydym yn gobeithio i weithio hyd yn oed yn agosach gyda'r Brifysgol yn y dyfodol.”
Mae adborth oddi wrth disgyblion Blwyddyn 13 o Ysgol Penglais wedi bod yn wych. Mae sylwadau yn cynnwys;
“Roedd yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol i weithio mewn lleoliad labordy mwy datblygedig i gael blas ar ymchwil y Brifysgol ac a wnaeth o bosib fy nylanwadu i astudio bioleg ar lefel uwch.”
“Fe wnes i'r modiwl cemeg ac roedd yn ddiddorol i adeiladu ar bethau a ddysgwyd gennym yn y dosbarth ac ehangu ar hynny mewn labordy priodol. Buom yn gweithio ar fiodanwydd ac roedd yn eithaf diddorol i weld y darlun ehangach o sut y gallai'r gwaith gael ei gyfieithu i brosiectau mawr masnachol.”
"Roedd y modiwl gwleidyddiaeth ryngwladol yn ddiddorol gan nad ydi’r ysgol gyda phynciau perthnasol i wleidyddiaeth, ond gan fy mod yn gymwys i bleidleisio, rhoddodd cipolwg gwerthfawr ar y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio."
I gymryd rhan yn y fenter hon, cysylltwch â Dr Jo Hamilton (jvh@aber.ac.uk) neu Dr Rhys Thatcher (ryt@aber.ac.uk) am ragor o wybodaeth.
Mae cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i'r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth gan EPSRC a RCUK ar gyfer prosiect SusNet, werth £128,000. Mae hyn yn caniatáu cyflogi Cydlynydd Prosiect, cyllid ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon ac ymchwilwyr ac mae cyfran sylweddol ar gael ar gyfer cyfranogiad ysgolion.
AU46113