Diweddariad tywydd
Y Prom yn Aberystwyth
31 Ionawr 2014
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fedru adrodd bod yr holl fyfyrwyr o Breswylfeydd Glan y Môr y Brifysgol wedi eu hailgartrefu neu wedi derbyn cynnig y Brifysgol i deithio adre neu i ran arall o’r Deyrnas Gyfunol am y penwythnos oherwydd llanw uchel a stormydd y penwythnos.
O’r 600 o fyfyrwyr sy’n byw mewn llety Prifysgol neu sector breifat ar lan y môr, mae tua hanner ohonynt wedi dewis symud i lety arall wedi’i ddarparu gan y Brifysgol neu fynd i aros gyda ffrindiau yn Aberystwyth a’r ardal gyfagos.
Mae mwy na thrydedd o’r myfyrwyr wedi derbyn cynnig y Brifysgol o deithio adre neu o Aberystwyth tan i’r amgylchiadau wella.
Roedd angen i fyfyrwyr Preswylfeydd Glan Môr y Brifysgol symud o’u llety erbyn 4 o’r gloch prynhawn heddiw.
Cynigwyd llety a phrydau bwyd ar gampws Penglais y Brifysgol neu gymorth gyda threfniadau teithio, os yr oedd myfyrwyr yn dymuno teithio adref neu o Aberystwyth tan i’r amodau wella.
O ystyried y nifer sylweddol o fyfyrwyr sydd wedi’u heffeithio ac i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn deg, mae gweithgareddau dysgu ar ddydd Gwener 31 Ionawr a dydd Llun 3 Chwefror wedi cael eu canslo.
Er mwyn caniatáu i fyfyrwyr barhau i astudio mae’r Brifysgol wedi trefnu bod Llyfrgell Hugh Owen ar agor am 24 awr y dydd tan nos Lun. Mae trefniadau i ail-drefnu dysgu ar y gweill ac mae staff yn defnyddio technoleg ddysgu ar-lein er mwyn darparu cymorth dysgu ychwanegol.
Mae’r Brifysgol yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn cydweithio’n agos iawn gyda Chyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies; “Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa bob awr ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi dod i law yn rhagweld llanw eithriadol o uchel ynghyd â gwyntoedd cryfion ar gyfer nos Wener ac yn ystod y penwythnos.
Mae’r cydweithiwr sy’n ymwneud â’r digwyddiad yn gweithio'n galed i sicrhau bod yr adleoli wedi bod yn bwyllog a diogel ac yn ein hatgoffa o’r bobl wych sy’n gweithio yn ein Prifysgol.
Mae ein myfyrwyr wedi bod yn wych wrth iddynt ymateb i'r alwad i gael eu hadleoli, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am eu cefnogaeth ac am ddeall yr angen i ganslo gweithgareddau dysgu.
Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r ffordd arloesol a chreadigol mae’r staff wedi bod yn defnyddio’r offer technoleg rhagorol i gofnodi darlithoedd.”
Cynghorir myfyrwyr sydd angen cymorth ar frys i gysylltu â llinell argyfwng y Brifysgol ar 01970 622900.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan y Brifysgol http://www.aber.ac.uk/cy/important-info/notices/ ac ar dudalen Facebook www.facebook.com/aberystwyth.university a chyfrif twitter y Brifysgol: www.twitter.com/prifysgol_aber.
AU3814