Rhewlifoedd yn bodoli ym Mhrydain ychydig ganrifoedd yn ôl
Yr Athro Neil Glasser
21 Ionawr 2014
Mae ymchwil gan ddau rewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth, ynghyd â gwyddonwyr o Brifysgol Exeter a Phrifysgol Dundee wedi dangos fod Prydain yn gartref i rewlifoedd bach ychydig ganrifoedd yn ôl - tua 11,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach na’r hyn a gredwyd yn flaenorol.
Mae Dr Ann Rowan a'r Athro Neil Glasser o Ganolfan Rhewlifeg yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, bellach wedi sefydlu bod rhewlifoedd bach bron yn sicr yn bodoli ym Mynyddoedd y Cairngorm yn yr Alban mor ddiweddar â'r 18fed ganrif.
Yn flaenorol, credid bod rhewlifoedd olaf Prydain wedi toddi tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae gwyddonwyr wedi sôn y gallai rhewlifoedd fod wedi ffurfio yn yr Ucheldiroedd o gwmpas cyfnod Oes yr Iâ Fach - cyfnod o oeri rhwng yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif - ond mae wedi bod yn anodd dod o hyd i dystiolaeth gadarn.
Mae Dr Rowan a'r Athro Glasser a chydweithwyr o Brifysgol Exeter a Phrifysgol Plymouth yn y Derynas Gyfunol, Prifysgol y Witwatersrand yn Ne Affrica, a Labordy Cenedlaethol Idaho yn yr Unol Daleithiau wedi defnyddio model rhewlifegol rhifiadol i efelychu rhewlifoedd Oes yr Iâ fach ym mynyddoedd y Cairngorm, gan eu galluogi i gyfrifo faint yn oerach a faint mwy o eira fyddai wedi bod i achosi’r rhewlifoedd hyn i ffurfio.
Mae'r model hwn yn dangos y byddai rhewlifoedd bychain wedi ffurfio yn y pantiau serth a geir yn y mynyddoedd yn yr Alban - drwy oeri tymheredd yr aer o 1.5C ac ychydig o gynnydd yn y dyddodiad o ddeg y cant o'i gymharu â hinsawdd heddiw. Mae hyn yn gyson ag amodau oedd yn bodoli yn ystod Oes yr Iâ Fach.
"Rhwng y 16eg ganrif a'r 19eg ganrif, roedd yr hinsawdd ym Mhrydain yn golygu bod rhewlifoedd wedi ffurfio ym Mynyddoedd yr Alban ymhell ar ôl i'r mamoth gwlanog olaf gael ei weld." meddai Dr Ann Rowan. "Er bod yr Afon Tafwys wedi rhewi a phobl yn cynnal ffeiriau rhew yn Llundain, byddai bywyd yn yr Alban wedi bod yn anodd.
“Mae'r rhewlifoedd Oes yr Iâ fach ym Mynyddoedd y Cairngorm yn awgrymu'r math o amrywiadau tymor byr yn yr hinsawdd ranbarthol a fyddai wedi effeithio ar fywydau pobl ac amaethyddiaeth, yn debyg o bosib i’r amodau gaeafol eithriadol o stormus sy'n effeithio ar y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd."
Yn ôl yr Athro Glasser, "Mae hefyd yn bosib bod rhewlifoedd tebyg yn bodoli ar yr un pryd ym mynyddoedd uchaf Cymru ac Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, ac rydym yn awr yn chwilio am dystiolaeth ddogfennol sy’n cynnwys adroddiadau hanesyddol o’r rhewlifoedd hyn."
Cyhoeddir yr astudiaeth hon a phapur cydymaith yn rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn The Holocene.
AU2514