Y Brifysgol yn cefnogi Wythnos Sgwrs Canser Macmillan
Logo Macmillan
17 Ionawr 2014
Bydd y Brifysgol yn cefnogi Wythnos Sgwrs Canser Macmillan yr wythnos yma (21-27 Ionawr) sy'n pwysleisio pwysigrwydd siarad am ganser gyda pherthnasau neu gyda rhwydwaith gefnogi.
Gall diagnosis o ganser gyflwyno her frawychus ac anodd i'r person hynny sydd wedi cael ei effeithio, ac i aelodau o'u teulu. Eleni, mae Wythnos Sgwrs Canser yn canolbwyntio ar deuluoedd a nod yr wythnos yw cydnabod pwysigrwydd cefnogi aelodau'r teulu hefyd.
I ddangos ei chefnogaeth i'r ymgyrch, mae’r Brifysgol wedi crynhoi nifer o adnoddau defnyddiol y gall staff eu defnyddio wrth iddynt fynd i’r afael â'r heriau o siarad â rhywun sy’n delio gyda diagnosis o ganser.
Eglurodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol ac arweinydd Seicoleg ar gyfer Rhwydwaith Canser De Cymru, "Gall derbyn diagnosis canser fod yn wirioneddol anodd i bawb ond gall siarad am y peth fod hyd yn oed yn anos.
"Er bod teuluoedd eisiau cefnogi’r person sydd wedi cael y diagnosis, gall fod yn anodd iawn i gael y sgwrs yna. Gall cyflogwyr a rheolwyr hefyd ganfod fod cefnogi gweithwyr sy'n delio â chanser, naill ai’r person sydd wedi cael y diagnosis neu fel aelod o'r teulu, fod yn dasg anodd iawn.
"Gall rheolwyr fod yn bryderus am godi'r pwnc gyda'r gweithiwr a gall ddewis osgoi'r mater i beidio â gwneud hynny achosi gofid. Nod Wythnos Siarad Canser Macmillan yw ceisio annog pobl i fod yn fwy agored wrth siarad a gwrando ar bobl sydd wedi’i heffeithio gan ganser. Mae bod yn ymwybodol o effaith gorfforol a seicolegol canser a'r triniaethau amrywiol, yn gallu lleihau ofnau a phryderon.
"Mae ystod eang o adnoddau rhagorol ar gael a fydd yn helpu gyda'r broses o annog a chefnogi siarad am ganser."
Dywedodd Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: "Mae’r wythnos yma yn ffordd o annog pawb i fod yn fwy agored am ganser. Rydym am i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser i sylweddoli ei bod yn iawn i chi gael cefnogaeth, a bod Macmillan yma i helpu.
"Rydym yn cynnig cymorth wyneb-yn-wyneb trwy ein nyrsys, canolfannau gwybodaeth a grwpiau cymorth, yn ogystal â chymorth ar-lein a dros y ffôn ar gyfer y rhai hynny sydd well ganddynt gael cymorth y ffordd honno. Nid yw gofyn am help pan fyddwch yn cael eu heffeithio gan ganser yn gyfaddefiad o wendid. Gall gymryd llawer iawn o nerth i bobl gyfaddef eu bod angen help. Dyna pam fod Macmillan eisiau bod yno i bawb sydd ein hangen."
Mae’r Brifysgol yn darparu Rhaglen Gymorth i Staff (RCS) sydd ar gael ar Wefan Adnoddau Dynol. Mae'r cynllun yn darparu cymorth i weithwyr sy'n delio â sefyllfaoedd anodd http://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap/%20
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ar gyfer ei staff sy'n galluogi staff a'r Brifysgol i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phryderon iechyd penodol a nodi ffurfiau priodol o gefnogaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau cefnogi staff: http://www.aber.ac.uk/cy/supporting-staff/work/healthanddisability/%20
AU714