Deall y prosesau sy'n arwain at gyflymu rhewfas

Dr Alun Hubbard yn drilio i mewn i rew o dan lyn yn yr Ynys Las

Dr Alun Hubbard yn drilio i mewn i rew o dan lyn yn yr Ynys Las

14 Ionawr 2014

Mae Silff Iâ yr Ynys Las (Greenland) yn colli ei rhewfas, ar gyflymder sy’n cynyddu, sydd ar hyn o bryd tua 200 km3 y flwyddyn. Mae hynny’n ddigon i godi lefelau môr y byd 0.6 mm y flwyddyn, ac yn ôl adroddiad diweddaraf y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd, mae’n debygol o godi lefelau’r y môr 50cm o fewn y ganrif. 

Mae hyn yn peri pryder, o ystyried difrod y llifogydd a’r stormydd yn ddiweddar yn y Deyrnas Gyfunol. 

Dengys ymchwil fod rhewlifoedd y byd, mewn rhai mannau, yn toddi hyd at 100 waith yn gyflymach nag ar unrhyw adeg yn ystod y 350 o flynyddoedd diwethaf, a fydd yn cael goblygiadau sylweddol i’r dyfodol. 

Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn £340,000 i ymchwilio i'r prosesau sy'n gyrru'r llif cyflym o’r rhewlifoedd hyn gan fod corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu y bydd yr ‘orfodi’ eigionegol ac atmosfferig yn ennyn ymateb cryf. 

Bydd y brodyr, y Dr Bryn Hubbard a’r Dr Alun Hubbard o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn cynnal arolygon a drilio tyllau i lawr hyd at 1,000m trwy rewlif all-lifol yn Silff Iâ’r Ynys Las i wneud arbrofion manwl ac arsylwadau ar sut mae rhewlifoedd o'r fath yn symud dros eu creigwely a’u sylfaen gwaddod. 

Eglurodd y Dr Bryn Hubbard, "Rhesymeg y prosiect hwn yw cynnal ymchwil i’r amodau mecanyddol a hydrolegol yng ngwely’r Rhewlif ‘Store’, sef rhewlif mawr sy’n arwain i’r môr yn yr Ynys Las, er mwyn deall pa fecanweithiau sy’n gyfrifol am ymateb sensitif y rhewlifoedd hyn i newidiadau yn yr hinsawdd a’r môr o’u hamgylch. 

"Ein her gyntaf fydd drilio - gan ddefnyddio dŵr poeth dan bwysau, a fydd yn cael ei bwmpio i lawr pibell hir – gyfres o dyllau turio hyd at 1 km i lawr i’r pwynt lle mae’r silff rhew yn gorffwys ar ei sylfaen o graig a malurion, ac wedyn gosodwn offer yno. 

“Gyda'r offer a osodir yn y gwely, ar yr wyneb a ger blaen y rhewlif, bydd y prosiect yn gallu deall beth sy’n rheoli llif y rhew ac ymateb y rhewlif i newid parhaus yr hinsawdd.” 

Dywedodd yr Athro Alun Hubbard, “Mae dŵr tawdd a mynyddoedd iâ sy’n dod o’r Ynys Las yn gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol ac uniongyrchol i’r cynnydd yn lefelau môr y byd, sydd ar hyn o bryd yn cyflymu ar raddfa frawychus. Mae hynny'n rhagolwg difrifol iawn ar gyfer ardaloedd isel arfordirol a phoblog iawn o'n planed.”

AU414