Ymchwil teleiechyd yn helpu cleifion gwledig yng Ngheredigion
Myfyriwr PhD, Joseph Keenan
10 Ionawr 2014
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar y manteision o ddefnyddio technoleg teleiechyd gyda chleifion â salwch terfynol sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac ynysig yng Ngheredigion dros y gaeaf hwn.
Bydd ymchwilwyr yn edrych ar sut y gall y dechnoleg ddiweddaraf alluogi gofalwyr iechyd proffesiynol i gysylltu gyda’u cleifion o gysur eu cartrefi dros fisoedd y gaeaf.
Dros gyfnod dwys o dri mis o fis Ionawr i Fawrth 2014, bydd yr astudiaeth yn monitro chwe chlaf a'u gofalwyr anffurfiol gan nodi os ydynt yn gweld y dechnoleg yn ddefnyddiol.
Bydd pwyslais yn cael ei roi ar effaith teleiechyd ar les ac iechyd yr unigolyn a pha mor aml y maent yn cyfathrebu gyda nyrsys ac ymarferwyr yn Ysbyty Bronglais.
Yr ymchwilydd sy’n arwain ar yr astudiaeth hon yw Joseph Keenan, myfyriwr PhD yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r ymchwil wedi cael ei ariannu drwy'r Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS).
Bydd Joseph, sy’n 23 mlwydd oed, yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Gofal Lliniarol yn Ysbyty Bronglais i wneud y gwaith ymchwil hwn. Dywedodd, "Bydd pob claf yn cael gliniadur â chamera ynddo, ynghyd â meddalwedd arbennig i'w galluogi i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â nyrsys, ymgynghorwyr a'r Tîm Gofal Lliniarol yn yr Ysbyty.
"Amcan yr ymchwil yw archwilio sut y mae gweithredu'r math hwn o wasanaeth teleiechyd yn y cartref yn effeithio ar y claf a phrofiad gofalwyr anffurfiol o salwch terfynol mewn ardal wledig."
"Bydd yr offer teleiechyd yn gweithredu fel ychwanegiad at y gwasanaeth a ddarperir yn barod ac fe fydd yn galluogi’r ysbyty i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â chleifion gwledig dros gyfnod y gaeaf, pan mae cynnal cyfathrebu weithiau'n anodd oherwydd tywydd garw.”
Esboniodd Dr Gokul, ymgynghorydd mewn meddygaeth liniarol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Gall rhaglenni teleiechyd olygu taw’r cartref yw’r dewis le am ofal; cynyddu’r cysylltiad â darparwyr gofal iechyd, darparu ymyriadau amserol ar gyfer rheoli poen a symptomau a gofid gofalwyr; a lleihau’r defnydd o adnoddau gofal iechyd a chostau teithio i gleifion a darparwyr gofal iechyd.”
Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn gleifion â salwch terfynol sy'n dioddef o gyflyrau megis Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, methiant cronig y galon a chanser.
Mae manteision go iawn ar gyfer y claf a'r clinigwr i’w cael. Bydd claf yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda staff yr ysbyty a gall y clinigwyr sy’n defnyddio teleiechyd sicrhau eu bod yn cymryd rhan ragweithiol yn lles ac ansawdd bywyd eu cleifion. Nod yr ymchwil yw darganfod os yw hyn yn wir.
Mae KESS wedi cael ei ariannu yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Raglen Gydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) a weinyddir gan Lywodraeth Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddwyd bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflawni statws Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol yn sgil y gwaith agos y mae’n ei wneud â phrifysgolion Cymru ar draws ystod eang o bynciau.
AU44513