Datganiad y Brifysgol
23 Rhagfyr 2013
Yn dilyn ymgynghoriad gyda staff dros gyfnod o 18 mis, cyflwynodd y Brifysgol strwythur newydd o Athrofeydd ym mis Awst 2013 er mwyn hyrwyddo cydweithio agosach rhwng adrannau academaidd.
Yn sgil hyn mae’r Brifysgol wedi bod yn adolygu’r gwasanaethau gweinyddol a chlerigol sydd eu hangen o fewn yr Athrofeydd.
Ers mis Medi 2013 mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio yn agos gyda chynrychiolwyr lleol a chyflogedig yr undebau y mae’n eu cydnabod yn swyddogol, UNSAIN, UNITE a UCU, er mwyn datblygu proses beilot ar gyfer paru a gosod swyddi.
Bydd y broses hon, lle bynnag y bo'n bosibl, yn hwyluso trosglwyddo staff o rolau presennol i rolau newydd o'r un radd yn y strwythurau newydd heb yr angen am eu gosod ‘mewn perygl’, rhywbeth na fyddai modd ei osgoi o dan drefn bresennol y Brifysgol.
Gyda chefnogaeth cynrychiolwyr lleol a swyddogion amser llawn yr undebau UNSAIN, UNITE a UCU cafodd manylion drafft y broses beilot ar gyfer paru a gosod a’r strwythurau newydd eu cylchredeg ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr ar gyfer ymgynghoriad.
Mae cyfnod yr ymgynghoriad, a oedd i ddod i ben ddiwedd Ionawr 2014, bellach wedi ei ymestyn tan 28 Chwefror mewn ymateb i gais gan UNSAIN.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i staff a’r undebau llafur wneud sylw ar y broses a’r strwythurau newydd sydd wedi eu cynnig.
Ni fydd y broses na’r strwythurau terfynol yn cael eu cwblhau tan y bydd yr ymgynghoriad wedi ei gwblhau. Er hyn, mae’n bwysig nodi fod yr argymhelliad presennol yn golygu y bydd nifer y rolau o fewn y strwythur newydd fwy neu lai'r un peth.
Mae'r Brifysgol yn hynod siomedig bod cynrychiolwyr lleol UCU wedi dewis anwybyddu yn llwyr y modd adeiladol y mae'r trafodaethau sydd wedi arwain at yr ymgynghoriad presennol wedi cael eu cynnal gyda swyddogion lleol a chyflogedig yr undebau, ac wedi gweithredu yn fwriadol er mwyn achosi gofid diangen i gydweithwyr ar adeg mor sensitif o'r flwyddyn.
AU45713