Pennaeth newydd Cyfraith a Throseddeg

Yr Athro John Williams

Yr Athro John Williams

20 Rhagfyr 2013

Penodwyd yr Athro John Williams yn Bennaeth newydd ar Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Williams yn olynu'r Athro Noel Cox yn y rôl, ac mae’n awdurdod ar y gyfraith a phobl hŷn, gyda phwyslais arbennig ar hawliau dynol pobl hŷn.

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd yr Athro Williams: "Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi’n Bennaeth yr Adran yn ystod y cyfnod heriol hwn yn ei hanes hir. Mae'n gyfnod o newid mewn addysg uwch ac mae llawer o gyfleoedd ar gyfer y Gyfraith a Throseddeg. Mae'r Adran mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn gan adeiladu ar ei addysgu, ymchwil a chyfraniad i'r cymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Roedd sefydlu ysgol y gyfraith mewn ardal wledig o Gymru yn 1901 yn destun beirniadaeth gan lawer o ystyried yr hyn a ddisgrifiwyd fel diffyg cyd-destun cyfreithiol ehangach yn lleol. Drwy eu parodrwydd i anwesu newid, bod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol a'u rhagolygon rhyngwladol, profodd fy rhagflaenwyr nad oedd sail i ddadleuon y rhai a oedd yn amau. Mae'n hanfodol bod yr Adran heddiw yn ailddatgan ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at ei harwain ar yr adeg gyffrous hon."

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon; “Rwy'n croesawu dychweliad yr Athro Williams i rôl Pennaeth Adran ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef. Mae gan ddisgyblaethau’r Gyfraith a Throseddeg allu gwirioneddol i gyfrannu at Athrofa newydd y Gyfraith, Rheolaeth a Gwyddor Gwybodaeth, ac at Gynllun Strategol y Brifysgol ehangach. Mae hwn yn gyfnod heriol a bydd yr Athro Williams yn dod ag egni ac awdurdod i'r rôl arweiniol bwysig hon”.

Mae'r Athro Williams yn aelod o banel o arbenigwyr sy’n cynghori Grŵp Gweithredol Pen Agored y Cenhedloedd ar Bobl Hŷn.

Mae'n ymgynghorydd deddfwriaethol i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cymru ar adroddiad Rhan 1 Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2013, ac yn un o’r pedwar aelod ar Banel Cynghori ar Ddiogelu Llywodraeth Cymru sy’n datblygu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Gyda’i gydweithwyr Alan Clarke a Sarah Wydall, mae ymchwil cyfredol yr Athro Williams yn canolbwyntio ar hygyrchedd cyfiawnder i ddioddefwyr hŷn camdriniaeth ac esgeulustod.

Mae’r Athro Williams yn traddodi cyflwyniad seminar blynyddol fel rhan o raglen seminar y Gyfraith a Seiciatreg Ysgol Feddygol Harvard, ac yn ddiweddar cyfrannodd i gynhadledd Iechyd Meddwl Academi Ryngwladol y Gyfraith a gynhaliwyd yn Amsterdam.

Hwn fydd ail gyfnod yr Athro Williams fel Pennaeth Adran, gan iddo arwain yr adran rhwng 1999 a 2009. Mae'r penodiad am gyfnod o 5 mlynedd.

AU45813