Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion

Y Cyng Paul Hinge, yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn llofnodi’r Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion a’r Cynghorydd John Adams-Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.

Y Cyng Paul Hinge, yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn llofnodi’r Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion a’r Cynghorydd John Adams-Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.

16 Rhagfyr 2013

Fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth lofnodi Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Aberaeron, y mis yma a hynny ym mhresenoldeb cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion a’r Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Nod y Cyfamod yw hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymysg y boblogaeth sifil o’r materion sy’n effeithio ar aelodau o’r Lluoedd Arfog. Mae’r Cyfamod Cymunedol yn ategu Cyfamod Lluoedd Arfog y Deyrnas Gyfunol, sy’n amlygu’r hyn y mae milwyr, morwyr ac awyrenwyr yn ei aberthu ar ran pawb arall.

Llofnodwyd y Cyfamod yn gyntaf ym mis Ionawr 2013, gyda phresenoldeb aelodau o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, Elusennau’r Lluoedd Arfog a chynrychiolaeth o fusnesau lleol.

 Mynegodd Prifysgol Aberystwyth ddiddordeb i fod yn un o'r partneriaid yn y Cyfamod Cymunedol ac yn dilyn trafodaethau gyda'r Cyng Paul Hinge, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, a Mr Alun Williams, Pennaeth Cefnogi Polisi.  Sicrhawyd cefnogaeth lawn gan Weithrediaeth y Brifysgol i fod yn bartner yng Nghyfamod Cymunedol Ceredigion.

AU45313