Cyswllt Sir Benfro â Chôr y Cewri
Carn Goedog yn Sir Benfro
10 Rhagfyr 2013
Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod cerrig gleision Côr y Cewri yn tarddu o Garn Goedog yn Sir Benfro.
Bydd papur newydd gan Dr Richard Bevins, Amgueddfa Cymru, Dr Rob Ixer o’r Ganolfan Archaeoleg yn UCL a’r Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi'r canfyddiadau yn gynnar flwyddyn nesaf yn y Journal of Archaeological Science.
Yn 2011, cadarnhaodd Dr Bevins, yr Athro Pearce a Dr Ixer am y tro cyntaf union leoliad a tharddiad rhai o’r cerrig gleision a elwir yn rhyolitau (craig igneaidd llawn silica). Datgelodd eu hymchwil taw’r tarddiad oedd brigiad amlwg Craig Rhos y Felin ger Crymych, Sir Benfro.
Mae ymchwil newydd gan yr un tîm, yn ail-ddehongli hen ddata ag ychwanegu data newydd, wedi eu galluogi i adnabod Carn Goedog hyderus fel y lleoliad ar gyfer y prif fath o garreg las a ddefnyddir ar gyfer monoliths Côr y Cewri, yr hyn a elwir yn 'dolerit smotiog'.
Craig igneaidd heb lawer o silica yn cynnwys smotiau nodedig lliw golau amlwg yw’r dolerit smotiog.
Dadl arbenigwyr yw bod y clogfeini ‘sarsen’ mawr yn tarddu o gyffiniau Côr y Cewri a Gwastatir Caersallog. Mae tarddiad y cerrig gleision llai wedi bod yn destun ymchwil ers blynyddoedd lawer, er nad oes llawer o waith wedi’i wneud yn mireinio ymchwil gwreiddiol y daearegwr Herbert Henry Thomas ym 1923.
Cyhoeddodd Thomas taw tarddiad y doleritau smotiog oedd brigiadau cerrig yn uchel ym mynyddoedd y Preseli, i’r gorllewin o Grymych.
O ganlyniad i ddamcaniaethau Thomas mae cloddiadau archeolegol diweddar wedi canolbwyntio ar ganfod chwareli yn ymwneud â Chôr y Cewri ar Garn Meini.
Defnyddiodd Dr Bevins, Dr Ixer a’r Athro Pearce dechnegau geocemegol i gymharu samplau o gerrig a rwbel Côr y Cewri â chanfyddiadau Thomas, yn ogystal â data geocemegol a gyhoeddwyd yn dechrau’r 1990au gan Richard Thorpe a’i dîm yn y Brifysgol Agored.
Canlyniad y canfyddiadau presennol yw bod mwyafrif y doleritau smotiog mewn gwirionedd yn dod o Garn Goedog sydd tua 1.5km o ddyfaliad gwreiddiol Thomas yng Ngharn Meini ac yn agos i Graig Rhos y Felin, ffynhonnell y cerrig gleision rhyolitic a nodwyd yn gynharach.
AU42713