Cyn bostmon a myfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn ennill gwobr dysgu

Mr Jones yn derbyn ei wobr gan lywydd y Sefydliad Ffiseg, Dr Frances Saunders

Mr Jones yn derbyn ei wobr gan lywydd y Sefydliad Ffiseg, Dr Frances Saunders

09 Rhagfyr 2013

Roedd Stephen Jones yn 35 mlwydd oed pan roddodd gorau i'w swydd fel postmon o 14 mlynedd i astudio gradd ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cofrestrodd gyda Prifysgol Aberystwyth yn 2001 a graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf bedair blynedd yn ddiweddarach.

Ym mis Tachwedd, yr oedd ymhlith chwe enillydd a gafodd Wobr Dysgu Ffiseg 2013 ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel athro eithriadol o dda.

Wedi ei eni yn Aberystwyth, cafodd Mr Jones ei benodi yn athro ffiseg yn Ysgol Penglais yn Aberystwyth yn 2006 a dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth yn bennaeth ffiseg.

Ers ei amser ym Mhenglais, mae wedi datblygu a chyflwyno'r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC, ac wedi cyflwyno cynllun gwobrau Crest ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion arbennig.

Mae hefyd wedi datblygu cysylltiadau cryf â Phrifysgol Aberystwyth, gan roi cyfle i ddatblygu eu sgiliau ymchwilio yn y labordai sy'n brofiad sydd wedi dylanwadu ar llawer o’i fyfyrwyr i ddewis ffiseg fel pwnc gradd.

AU42613