Astudio bioamrywiaeth y Falklands

Andrew Mathews, sy’n astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli Amgylchedd y Môr a Dŵr Croyw

Andrew Mathews, sy’n astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli Amgylchedd y Môr a Dŵr Croyw

26 Tachwedd 2013

Mae Andrew Mathews, myfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth wedi cymryd rhan mewn prosiect ymchwil a allai fod o gymorth i Lywodraeth Ynysoedd y Falklands er mwyn rheoli a gwarchod ei bywyd môr.

Mae Andrew yn fab i gyn-filwr o ryfel y Falklands ac yn ei flwyddyn olaf yn IBERS yn astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli Amgylchedd y Môr a Dŵr Croyw.

Treuliodd haf 2013 yn astudio bywyd dŵr môr bas, yn benodol yn Adventure Sound - cilfan ar ochr dde-ddwyreiniol ynys Dwyrain Falkland.

Roedd Andrew yn cymryd rhan mewn astudiaeth sydd yn cael ei harwain gan Dr Paul Brickle, SAERI (Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol De’r Iwerydd) a sefydlwyd yn ddiweddar ac sydd wedi ei lleoli ar Ynysoedd y Falklands.

Cylch gorchwyl SAERI yw cyfuno ymdrechion ymchwil o bob maes gwyddonol sydd yn cael eu cynnal ar holl Diriogaethau Tramor Prydeinig De’r Iwerydd.

Yn ogystal ag Ynysoedd y Falklands, mae hyn yn cynnwys St Helena, Ynys Ascension, Tristan de Cuhna, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De.

Ariannwyd gwaith Andrew yn bennaf drwy grant o £2,000 o Gronfa Ysgoloriaeth Shackleton, gyda chyfraniad o £300 gan WAC (Pwyllgor Gwobrau Clwb Dathlu a Lles).

Nod yr astudiaeth yw cynhyrchu data llinell sylfaen (man cychwyn wedi ei ddiffinio'n glir) er mwyn darparu gwybodaeth i SAERI a Llywodraeth Ynysoedd y Falklands a fydd yn eu galluogi i reoli a gwarchod eu cynefinoedd morol bas ar sail gwybodaeth wyddonol.

Fel rhan o'r prosiect bu Andrew yn dadansoddi dros 500 ffotograff  o samplau a gymerwyd gan aelodau o'r Grŵp Arolygon Môr Bas (SMSG) gan ddefnyddio technegau ystadegol nad ydynt wedi cael eu defnyddio yn y cyd-destun hwn o’r blaen yn Ynysoedd y Falklands.

Yna fe ddefnyddiwyd meddalwedd ffotograffig sydd yn gallu mesur y ganran o'r ardal a dwysedd yr amrywiaeth o blanhigion a chreaduriaid môr, o ystod eang o amodau amgylcheddol.

Dywedodd Dr Pippa Moore , Darlithydd IBERS mewn Bioleg Dŵr; "Mae'r ymchwil y mae Andrew wedi ei wneud yn cynnig dealltwriaeth sylweddol o fioamrywiaeth systemau dŵr môr bas Ynysoedd y Falklands ac sydd heb eu hastudio mewn gwirionedd tan nawr, ac mae’r gwaith yn rhoi cyd-destun i SAERI er mwyn sefydlu rhaglen fonitro hirdymor o’r amgylchedd hwn a allai fod yn fregus.

“Mae ein gradd meistr mewn Rheoli Amgylchedd y Môr yn darparu'r sgiliau a'r hyder i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil sy’n bwysig yn rhyngwladol, a mae ymdrechion Andrew yn brawf o hyn."

Mae dadansoddiad o'r data hwn yn ategu gwybodaeth bresennol o strwythur cymunedol cynefinoedd môr bas Ynysoedd y Falklands sydd ar hyn o bryd yn denu mwy o ddiddordeb o ganlyniad i gloddio am adnoddau, gan gynnwys olew.

Er fod dyfalu mawr fod cronfeydd olew mawr o amgylch yr ynysoedd, dim ond yn ystod y tair blynedd diwethaf mae gwaith archwilio wedi digwydd, a mi fydd gwaith Andrew yn hwyluso gwell dealltwriaeth o swyddogaethau a strwythur ecoleg y cynefinoedd hyn a'r effeithiau posibl o chwilio am a chloddio am olew.

Byddai Ynysoedd y Falklands yn elwa'n uniongyrchol o ymchwil Andrew gan y byddai’r data sylfaenol yma yn caniatáu i unrhyw newidiadau, o ganlyniad i’r mwyngloddio, gael eu cymharu â set ddata sylfaen gref.

Dywedodd Andrew; "Fe all canlyniadau fy ymchwil hwyluso canfod unrhyw effaith y gallai’r arferion hyn greu yn fuan iawn, a chymryd y camau rheoli perthnasol cyn i ddifrod  anadferadwy gael ei wneud. Yng ngoleuni'r bygythiadau posibl yma, mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd dŵr môr bas.

Yn ogystal, mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at ddau o'r meysydd blaenoriaeth o fewn Strategaeth Bioamrywiaeth Llywodraeth Ynysoedd y Falklands."

Dywedodd Dr Paul Brickle o SAERI; "Mae  cael myfyriwr o Aberystwyth yn gweithio yma yn Ynysoedd y Falklands wedi bod yn wych. Un o amcanion SAERI yw mentora a darparu ar gyfer myfyrwyr yn Ne Môr yr Iwerydd. Mi fydd y gwaith a gwblhawyd o fudd wrth i’n hadnbyddiaeth o fywyd môr o amgylch Ynysoedd y Falknad ddatblygu."

AU38213