Buddsoddi mewn diemwnt

Yr Athro Andrew Evans, arweinydd y prosiect yn Aberystwyth sydd wedi datblygu dull newydd o gynhyrchu graffin gan ddefnyddio deimwnt

Yr Athro Andrew Evans, arweinydd y prosiect yn Aberystwyth sydd wedi datblygu dull newydd o gynhyrchu graffin gan ddefnyddio deimwnt

25 Tachwedd 2013

Mae Aberystwyth yn un o wyth prifysgol sydd wedi derbyn cyllid er mwyn sefydlu Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Diemwnt gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).

Prifysgol Warwick sydd yn arwain y Ganolfan newydd sydd hefyd yn cynnwys prifysgolion Bryste, Caerdydd, Imperial, Newcastle, Rhydychen a Strathclyde, a thua 30 o gwmnïau masnachol.

Gwnaed y cyhoeddiad am sefydlu’r Ganolfan gan Weinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth y Deyrnas Gyfunol, David Willetts ac mae’n rhan o fuddsoddiad gwerth £350m gan Lywodraeth y DG i hyfforddi dros 3,500 o fyfyrwyr ôl-raddedig mewn peirianneg a’r gwyddorau ffisegol.

Mae sefydlu’r Ganolfan newydd yn golygu fod gwaith ymchwil diemwnt yn cyrraedd trothwy newydd sy'n addo llawer o dechnolegau arloesol a mewnwelediad gwyddonol gwreiddiol a hwyluswyd gan ddiemwnt.

Bydd yn darparu hyfforddiant ac ymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol a fydd yn gymorth er mwyn croesi'r trothwy a chael effaith sylweddol ar nifer o feysydd sydd o ddiddordeb strategol.

Dywedodd yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Fathemateg a Ffiseg ac arweinydd y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth; "Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol iawn i Brifysgol Aberystwyth. Rydym wedi buddsoddi mewn tîm o ffisegwyr a mathemategwyr sy'n arbenigo mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol gan ddefnyddio'r dulliau arbrofol a chyfrifiannol diweddaraf, gyda llawer ohonynt wedi eu datblygu'n benodol ar gyfer astudio deunyddiau fel diemwnt."

"Mewn llawer ffordd,  diemwnt yw'r deunydd eithaf; dyma’r mwyaf tryloyw a’r caletaf a’r dargludydd gwres gorau. Mae modd cynhyrchu diemwntau synthetig o ansawdd uchel mewn ystod eang o siapiau, maint, lliw a dargludedd trydanol, gan olygu bod modd ei ddefnyddio pan fo deunyddiau confensiynol megis gwydr, metelau a silicon yn methu, ac mae hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer technolegau newydd megis cyfrifiaduron cwantwm.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio arbenigedd arbrofol a damcaniaethol sydd wedi eu datblygu yn Aberystwyth, ochr yn ochr â'n partneriaid diwydiannol ac academaidd yn y Ganolfan newydd er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o ddefnyddiau ar gyfer y deunydd hynod hwn ac i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol", ychwanegodd.

Mae ymchwilwyr yn Aberystwyth yn arbenigo mewn ffiseg arwynebau a haenau diemwnt â moleciwlau, metelau, ynysyddion a graffin a hefyd sut mae diemwntau yn ymateb i olau, gwaith sy'n braenaru'r tir ar gyfer creu strwythurau cwantwm newydd.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Athro Evans a'i dîm eu bod wedi datblygu dull newydd o gynhyrchu graffin gan ddefnyddio deimwnt. Mae’r ddwy ffurf yma o garbon yn debygol o fod mor ddylanwadol yn ystod yr 21ain ganrif ag yr oedd plastig a silicon yn ystod yr 20fed ganrif.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan newydd, yr Athro Mark Newton o Brifysgol Warwick: "Mae diemwnt yn ddeunydd y mae galw mawr amdano, nid yn unig oherwydd ei estheteg a’i fod mor ddeniadol, ond oherwydd ei rinweddau fel deunydd amlbwrpas a nodweddion aml-ddefnydd; thermol, mecanyddol, trydanol, optegol a mwy."

"Mae ymchwil ar y synthesis, prosesu a pheirianneg nam diemwnt wedi cyrraedd trothwy critigol a hanfodol: mae technolegau wedi eu hwyluso gan ddiemwnt yn dod i’r amlwg ac mae ganddynt y potensial ar gyfer datblygiadau mawr mewn gwyddoniaeth sylfaenol a pherfformiad cymwysiadau. Er enghraifft, mae gosod diffygion penodol mewn diemwnt yn paratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyfrifiaduron cwantwm a synwyryddion sy’n gallu canfod atomau sengl. Gellir cynhyrchu gronynnau bio-gydnaws sy’n rhyddhau golau drwy saernïo nanoronynnau diemwnt sydd â diffygion ac mae modd eu dilyn gyda microsgopau pwerus wrth iddynt deithio o amgylch y corff er mwyn cyflenwi cyffuriau neu hyd yn oed fesur tymheredd cell unigol."

Bydd y Ganolfan newydd yn dwyn ynghyd 40 o ymchwilwyr blaenllaw o’r wyth  prifysgol sy’n bartneriaid a bydd mewnbwn diwydiannol yn rhan annatod o’r cynllun.

EPSRC
Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yw prif asiantaeth gyllido’r Deyrnas Gyfunol ar gyfer peirianneg a’r gwyddorau ffisegol. Mae’r EPSRC yn buddsoddi o ddeutu £800 miliwn bob blwyddyn mewn ymchwil a hyfforddi uwchraddedigion er mwyn cynorthwyo’r genedl i drin y genhedlaeth nesaf o newid technegol.

AU41513