Robot Hwylio Prifysgol Aberystwyth yn hedfan i India!
Dr. Mark Neal, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg.
22 Tachwedd 2013
Fel rhan o hyrwyddo graddau Cyfrifiadureg y Brifysgol yn India, mae'r tîm o'r Swyddfa Ryngwladol a'r adran Gyfrifiadureg yn bwriadu mynd â Robot Hwylio trawiadol i Mumbai. Bydd y Robot Hwylio yn cael ei arddangos yn ystod yr Arddangosfa Addysg Cyngor Prydeinif y Deyrnas Gyfunol a gynhelir yng ngwesty LeelaKempinski ar 26 Tachwedd 2013.
Mae'r Robot yn ganlyniad i waith tîm gwych gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan gyfarwyddyd Dr Mark Neal, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg
Bydd Amarjeet Mutneja, Swyddog Rhyngwladol ar gyfer De Asia a Dr Edel Sherratt o'r adran Gyfrifiadureg yn Mumbai i gwrdd â myfyrwyr, a bydd y Robot yn arddangos rhai o'r prosiectau gorau a gynhaliwyd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.
Dyma'r tro cyntaf i'r Robot Hwylio fynd i Asia , ac mae'r tîm yn edrych ymlaen at gyfarfod darpar fyfyrwyr a rhannu’r cyfleoedd rhagorol sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.
I gael rhagor o fanylion am Brifysgol Aberystwyth yn India , ewch i www.aber.ac.uk / india . I gwrdd â'r tîm yn India e-bosiwch Amarjeet ar asm20@aber.ac.uk neu ffoniwch 044 7964246740