Adeilad Elystan Morgan
Yr Arglwydd Elystan Morgan, yr Athro April McMahon a'r Athro John Williams
22 Tachwedd 2013
Yr wythnos hon, gwahoddwyd yr Arglwydd Elystan Morgan i agor cartref newydd Adran y Gyfraith a Throseddeg yn swyddogol. Mae'r adeilad wedi ei enwi ar ei ôl.
Cafodd y cyn Farnwr ac Aelod Seneddol ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, ac yna aeth ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dros y blynyddoedd mae’r Arglwydd Elystan Morgan wedi cadw cysylltiad agos â'r Brifysgol gan wasanaethu fel Llywydd am 10 mlynedd rhwng 1997 a 2007.
Mae Adeilad Elystan Morgan yng Nghanolfan Llanbadarn Prifysgol Aberystwyth ac yn gartref i dros 850 o staff a myfyrwyr. Mae pob ystafell, 119 i gyd, yn yr adeilad pedwar llawr wedi cael eu hadnewyddu yn ddiweddar a wedi’i diwedddaru gyda’r offer diweddaraf a chyfleusterau TG.
Eglurodd yr Athro John Williams, Pennaeth Dros Dro Adran y Gyfraith a Throseddeg, "Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Arglwydd Elystan Morgan yn ôl i'r Brifysgol ac yn benodol i’r Adran a dangos iddo’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Fe astudiodd yn Aber o 1951-'54 ac mae ganddo atgofion melys iawn o'i amser yma.
"Cafodd argraff dda iawn o’r newidiadau a’r gwelliannau sydd wedi cymryd lle yn ddiweddar a beth fydd hyn yn ei olygu yn y dyfodol i fyfyrwyr. Mae'r ystafelloedd ac amwynderau newydd o fudd mawr i'n myfyrwyr a staff sydd yn cynnwys y technoleg arloesol ddiweddaraf.”
Yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth
Mae'r Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth yng Nghanolfan Llanbadarn wedi elwa yn ddiweddar o fuddsoddiad gwerth £3.5 miliwn yn yr ystafelloedd dysgu, mannau addysgu, cyfleusterau TG, systemau technoleg, ardaloedd cymdeithasol a llawer mwy.
Mae gan Ganolfan Llanbadarn lyfrgell bwrpasol yn adeilad Thomas Parry sy’n cynnwys gwerslyfrau, cyfnodolion ac adnoddau cymorth addysgu gyda mynediad llawn i’r adnoddau electronaidd diweddaraf.
Mae’r staff wedi eu lleoli yn y ddau brif adeilad, sef Adeilad Elystan Morgan ac Adeilad Rheidol. Fel rhan o'r gwaith adnewyddu, ceir bwyty newydd sbon o'r enw Blas Padarn sy'n cynnwys mannau astudio anffurfiol ar gyfer y myfyrwyr a staff.