Bacteria yn blodeuo wrth i’r eira doddi

Dr Arwyn Edwards, darlithydd mewn Gwyddorau Biolegol yn IBERS, yn casglu samplau o facteria yn blodeuo ar Svalbard.

Dr Arwyn Edwards, darlithydd mewn Gwyddorau Biolegol yn IBERS, yn casglu samplau o facteria yn blodeuo ar Svalbard.

30 Hydref 2013

Yn ystod Haf 2012 cofnodwyd y lefel uchaf erioed o iâ yn toddi ar yr Ynys Las ac mae gwyddonwyr yn IBERS Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio offer dilyniant DNA blaengar i astudio bioamrywiaeth eira wrth iddo doddi ar rewlif yn ynysfor Svalbard, sydd yn eiddo i Norwy yn yr Uwch Arctig.

Yn rhifyn mis Medi o’r cyfnodolyn The ISME Journal a gyhoeddir gan grŵp Nature, mae tîm sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn honni y gallai dadlaeth sylweddol ar draws rhewlifoedd yr Ynys Las arwain at rai o ddigwyddiadau tymhorol mwyaf byd natur.

Ond, mae’r bacteria microsgopig yn anweledig i fodau dynol heb gymorth offer dilyniant DNA arbenigol.

Gall amgylcheddau eira feddiannu dros draean o arwynebedd tir yn y rhan yma o'r byd, ond ychydig sy’n hysbys am ddynameg bacteria mewn eira caled.

Dywedodd Dr Arwyn Edwards, Darlithydd mewn Gwyddorau Biolegol yn IBERS a phrif awdur yr astudiaeth; "Gwelsom fod y bacteria eira yn "blodeuo" yn gyflym mewn ymateb i eira yn toddi. Mae hyn o ddiddordeb oherwydd bod 30% o hemisffer y Gogledd yn cael ei gorchuddio ag eira yn dymhorol, a fod rhannau helaeth ohono yn awr yn toddi’n gloi a bod y patrymau toddi yma yn newid yn gyflym oherwydd ansefydlogrwydd yr hinsawdd.

Golyga hyn fod posibilrwydd o weld bacteria yn blodeuo yn sylweddol iawn ar draws yr Ynys Las yn ystod tymhorau toddi cyflym ond helaeth.”

Tra bod blodau algâu yn gyfarwydd iawn, hyd yn oed mewn eira - ffenomenon a welwyd gyntaf gan Aristotle, maent yn cymryd mwy o amser i gydio na’r hyn â ganiateir gan gyfnodau toddi eang ond byr sydd wedi eu cysylltu ag effeithiau hinsawdd sy’n cynhesu.

Canfu'r tîm fod yr amrywiaeth bacteriol o ‘eira gwlyb’ yn symud yn gyflym iawn, gydag un grŵp o facteria yn “blodeuo” dros gyfnod o wythnos. Mae gwyddonwyr hefyd yn meddwl bod llygredd nitrogen yn yr amgylcheddau dilychwin yma yn achosi’r “blodeuo”.

Mae hyn yn bwysig am ei fod yn awgrymu y gall microbau goloneiddio hyd at 30% o arwynebedd tir yn gyflym iawn yn y rhan yma or o'r byd sydd wedi ei orchuddio gan eira tymhorol.

Mae astudiaeth gysylltiedig a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos fod arwynebau rhewlifoedd yn casglu microbau yn drwm, gan arwain at bryderon bod microbau yn gludo llwch, carbon a gronynnau bach o greigiau at ei gilydd ar wyneb rhewlifoedd gan dywyllu wyneb yr iâ, sy’n golygu bod mwy o ynni'r haul yn cael ei drosglwyddo i wyneb y rhew a’i doddi yn gyflymach.

Mae'r gwyddonwyr yn awr yn cynllunio astudiaethau pellach ar yr Ynys Las ei hun i geisio dal y ffenomen ar waith yn ystod yr haf nesaf.

Roedd technegau dadansoddi a pyroddilynianu genynau yn datgelu strwythurau cymunedol bacteriol gwahanol mewn gwahanol fathau o gynefinoedd, gyda newidiadau dros 1 wythnos yn amlwg, yn arbennig ar gyfer y dosbarth bacteriol presennol amlycaf, Betaproteobacteria.


Roedd yr ‘eira gwlyb’, sef cynnyrch pydrol, yn cynnwys llinachau penodol o facteria, a newidiadau yn strwythur y gymuned ar ôl gwaddodion ar wyneb yr eira.

 

Darganfu tystiolaeth am bresenoldeb bacteria betaproteobacterial sydd yn ocsideiddio amonia, gyda’r posibilrwydd y gall y cymunedau bacteriol deinamig sy'n gysylltiedig â eira caled fod yn weithredol mewn cylchu nitrogen ‘supraglacial’ ac yn gallu ymateb yn gyflym i newidiadau a achosir gan eira yn toddi.

 

Podlediad gan Dr Arwyn Edwards fel cefndir:

http://microbepost.org/2013/10/01/microbe-talk-october-2013/

AU38113