Gwobr Arlwyo Cynaliadwy

Jane Powell o Canolfan Organig Cymru (Dde) a Rebecca Davies, Dirprwy Is-ganghellor o Brifysgol Aberystwyth yn mwynhau bwyd lleol wedi’i baratoi ym mwytai’r Brifysgol.

Jane Powell o Canolfan Organig Cymru (Dde) a Rebecca Davies, Dirprwy Is-ganghellor o Brifysgol Aberystwyth yn mwynhau bwyd lleol wedi’i baratoi ym mwytai’r Brifysgol.

24 Hydref 2013

Bu Canolfan Organig Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad ar 23 Hydref i ddathlu llwyddiant diweddar y Brifysgol wrth sicrhau Gwobr Nod Arlwyo Efydd Bwyd am Fywyd gan Gymdeithas y Pridd i’w holl fwytai ar y campws. Mae cynllun Bwyd am Fywyd yn prysur ddod yn safon i’r diwydiant ar gyfer bwyd lleol, cynaliadwy, o ffynonellau moesegol ac yn cydnabod llawer o’r arferion caffael bwyd ardderchog a geir eisoes yn y Brifysgol.

Mae’r Brifysgol yn elwa ar ei fferm ei hun ar y safle sy’n gadael i’r bwytai gaffael cig oen ac eidion sydd, gellid dadlau, ag un o’r cadwyni cyflenwi byrraf a’r nifer isaf o filltiroedd bwyd ar gyfer cig a gaffaelir ar raddfa mor fawr. Tai gwydr y Brifysgol ei hun sy’n cyflenwi’r ceginau â salad a pherlysiau ffres i gyd-fynd â’r 1000 a rhagor o brydau bwyd poeth sy’n cael eu serfio bob dydd yn y Brifysgol.

Yn ôl Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaethau Lletygarwch: “Mae’n gyfnod pryd y mae mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o ran tarddiad eu bwyd, yn enwedig wrth fwyta allan, ac nid yw hyn yn wahanol i’r staff a’r myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae cynaliadwyedd yn cael cryn ddylanwad ar ein gweithgareddau caffael bwyd ers tipyn o amser ac mae hyn yn cael ei hwyluso’n fwy byth oherwydd y ffermydd sydd gynnon ni yn y Brifysgol. Drwy sicrhau Nod Arlwyo Bwyd am Fywyd, gallwn ni ddangos ein hymrwymiad i gaffael bwyd o ffynonellau lleol, cynaliadwy ac i ddarparu bwyd rhagorol bob dydd i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â’r Brifysgol.”

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-ganghellor Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff: “Dw i wrth fy modd gallu mynychu’r digwyddiad hwn sy’n dathlu gwaith rhyfeddol ein staff arlwyo a fferm, sy’n mynd at ddarparu bwyd ardderchog i’n holl staff a myfyrwyr. Mae Prifysgol Aberystwyth yn wirioneddol unigryw yn y ffordd mae’n gallu caffael cig o’i ffermydd ei hun ac mae ffermio’n rhan o’r sylfeini y codwyd y Brifysgol arnynt. Mae ein bwydlenni a’n bwytai’n cynnwys bwyd lleol, tymhorol a chyffrous sy’n adlewyrchu ein cymunedau lleol a rhyngwladol.” 

Mae Nod Arlwyo Bwyd am Fywyd Cymdeithas y Pridd wedi cael ei ddatblygu i adlewyrchu’r arferion gorau o ran prydau bwyd iach a chynaliadwy. Mae’r cynllun yn cynnig cyngor i arlwywyr ar sut i gael hyd i gynnyrch tymhorol, lleol ac organig a gynhyrchir mewn ffordd ecogyfeillgar at safonau lles anifeiliaid uchel.

Mae Canolfan Organig Cymru sydd â’i chartref ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn cefnogi arlwywyr ar draws Cymru i ddysgu rhagor am y cynllun fel rhan o’i phrosiect cadwyni cyflenwi gyda chynyrchwyr organig lleol ynghyd â’i gwaith addysg fwyd gyda defnyddwyr. Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod o gynnyrch lleol a bydd cynhyrchwyr confenisynol ac organig yn bresennol i drafod beth mae caffael bwyd o ffynonellau cynaliadwy’n ei olygu iddyn nhw.

Gan siarad am eu gwaith yn y maes hwn, dywedodd Jane Powell o’r Ganolfan, “Mae gan Gymru enw da dros amser am fwyd gwych a chyda mwy o sefydliadau’n dod yn rhan o gynllun y Nod Arlwyo, bydd yn cynnig marchnad iach i fwyd lleol, cynaliadwy sy’n darparu gwell safonau lles i anifeiliaid. Teimlwn fod mentrau fel hon a’r sector organig yn allweddol yn yr ymgyrch tuag at sefydlu Cymru fel cenedl bwyd cynaliadwy. Rydyn ni wrth ein boddau cefnogi’r digwyddiad hwn a gweithio mewn amgylchedd lle mae bwyd da ar gael i bawb.” 

AU36913