Cyfarwyddwr newydd i Ganolfan y Celfyddydau

Gareth Lloyd Roberts

Gareth Lloyd Roberts

08 Hydref 2013

Penodwyd Gareth Lloyd Roberts, Cynhyrchydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, i swydd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Ymunodd Gareth â Chanolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae wedi gweithio mewn nifer o rolau, gan gynnwys y Swyddog Rhaglennu a Rhaglennydd.

Cafodd Gareth ei benodi i swydd Cynhyrchydd ym mis Mehefin 2010. Mae’n gyfrifol am ddatblygu a meithrin talent, rhaglennu a chynhyrchu gwaith newydd yn ogystal â hwyluso a threfnu teithiau pob un o gynyrchiadau mewnol yn y Ganolfan.

Mae'n goruchwylio prosiect Incubator, prosiect datblygu creadigol y Ganolfan ac roedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r teithiau diweddar o Ma ' Bili'n Bwrw'r Bronco (cyd-gynhyrchiad gyda Theatr na nÓg) ac I’m With the Band (cyd-gynhyrchiad gyda Cwmni Theatr Traverse), sydd ar hyn o bryd ar daith ac yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 14 a 15 Hydref.

Gareth hefyd yw crëwr a threfnydd Blysh, gŵyl syrcas, cabaret a chelf stryd flynyddol hynod lwyddiannus y Ganolfan sydd bellach yn ei phumed flwyddyn.

Ar hyn o bryd mae'n rhan o’r tîm sy’n cynhyrchu cyngerdd agoriadol WOMEX 2013: Gŵyl Gerdd Byd (World Music Expo) (cyd-gynhyrchiad gyda Cerdd Cymru) a fydd yn agor yng Nghaerdydd ar 23 Hydref. Bu Gareth yn gweithio gyda’r tîm a wnaeth gais llwyddiannus i ddenu’r digwyddiad i Gymru.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Gareth; "Rwyf wrth fy modd ac mae’n anrhydedd i ymuno â thîm Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn creu a datblygu gwaith newydd, arloesol a deinamig i gyd-fynd gyda’r rhaglen greadigol helaeth a deniadol sydd eisoes yn bodoli yno.

"Rwyf yn frwdfrydig ac yn angerddol dros y celfyddydau, ac rwy'n gobeithio dod â’r egni hwn i'r rôl hon, yn ogystal â sicrhau bod cynulleidfaoedd a'r gymuned yn ganolog i bopeth a wnawn.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod a dod i adnabod y staff yng Nghanolfan y Celfyddydau a’r Brifysgol ehangach yn ogystal â phobl a thirwedd Aberystwyth.

"Hoffwn hefyd gydnabod a diolch i bawb yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda nhw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ers 2004. Maent yn ysbrydoledig a byddaf yn gweld eu heisiau i gyd ac yn cofio’n gynnes am fy amser yn y Ganolfan."

Croesawodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, y penodiad. “Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi gallu penodi unigolyn ardderchog i arwain Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae gan Gareth gyfoeth o brofiad, gwybodaeth ac egni ac rwy'n hyderus y bydd yn gallu arwain Canolfan y Celfyddydau yn llwyddiannus gyda Bwrdd Ymgynghorol y Ganolfan, er budd ein cymunedau lleol a byd-eang, gan gynnwys ein cymuned o fyfyrwyr a staff."

Croesawyd y penodiad hefyd gan David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. "Yn y Cyngor, rydym yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Cyfarwyddwr sydd newydd ei benodi, y tîm yng Nghanolfan y Celfyddydau a'r Athrofa a ffurfiwyd yn ddiweddar o fewn y Brifysgol. Mae yna gyflawniadau gwych a chydnabyddedig i adeiladu arnynt, a rhaglen gyfoethog i’w datblygu yn hyderus, wrth i bawb ganolbwyntio eu hymdrechion o’r newydd ar gynlluniau ac amcanion y Ganolfan. Mae gan y Ganolfan rôl ddeinamig yn y rhanbarth, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Cyngor y Celfyddydau am barhau i gefnogi a chynorthwyo i ddatblygu’r potensial hwn."

Dywedodd yr Athro Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol: "Rwy'n edrych ymlaen at groesawu Gareth i dîm Gweithredol yr Athrofa ac i weithio gydag ef i gyflawni Cynllun Strategol Canolfan y Celfyddydau ac i ddatblygu gweledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol y Ganolfan ar gyfer y dyfodol."

Yn raddedig mewn Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, daw Gareth yn wreiddiol o Abertawe ac astudiodd yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Central College, Pella, Iowa.

Cyn ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru, bu Gareth yn gweithio fel cyfarwyddwr, awdur sgript ac ymchwilydd ar gyfer cynhyrchwyr teledu Cymraeg a hefyd fel actor.

Ym mis Medi 2010 cafodd ei secondio i Theatr Sadlers Wells am bedwar mis lle bu’n gweithio fel Rheolwr Contract Artistig.

Bydd Gareth yn dechrau yn swydd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 11 Tachwedd.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adnodd celfyddydol arobryn ac adran o Brifysgol Aberystwyth; dyma ganolfan gelfyddydau fwyaf a phrysuraf Cymru, ac mae’n cynnig rhaglen eang o ddigwyddiadau a Gweithgareddau ar draws pob ffurf o gelf yn ogystal â rhaglen o addysg gelfyddydol gymunedol sy’n ffynnu.   www.aber.ac.uk/artscentre

AU36713