Merched mewn oes o chwyldro
Yr Athro Paula Backscheider, Brifysgol Auburn, Alabama
08 Hydref 2013
Bydd yr Athro Paula Backscheider o Brifysgol Auburn, Alabama yn traddodi darlith agoriadol Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol Prifysgol Aberystwyth heno, nos Fawrth 8 Hydref 2013.
Cynhelir y ddarlith, “Fashioning War-Time: Women in the Age of Revolution, 1775-1815”, yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a bydd yn dechrau am 6 yr hwyr.
Yn y ddarlith bydd yr Athro Backscheider yn edrych ar y theatr, ffasiwn, opera, celf, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn ac yn trafod sut yr oedd anghenion y genedl yn cael eu cyfathrebu at ac yn cael eu derbyn gan ferched.
Dywedodd yr Athro Sarah Prescott, Cyfarwyddwr yr Athrofa; “Rydym wrth ein bodd o gael croesawu’r Athro Backscheider i Brifysgol Aberystwyth.”
“Y llwyfan yn Llundain oedd un o’r dylanwadau mwyaf ar farn wleidyddol a chymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn. Nid oedd gan unrhyw genre arall sensor personol. Roedd dwy o’r merched mwyaf dylanwadol yn ystod y cyfnod hwn yn ddramodwyr ac roedd cymeriadau merched wedi eu llunio i adlewyrchu sut y dylai merched fod mewn cyfnod o ryfel.”
Mae’r Athro Backscheider yn arbenigo ar lenyddiaeth y ddeunawfed ganrif a’r adnewyddiad, beirniadaeth ffeministaidd ac astudiaethau diwylliannol.
Mae’n awdur nifer o gyfrolau gan gynnwys Daniel Defoe: His Life (ennillydd Gwobr y Cyngor Prydeinig), Spectacular Politics, Reflections on Biography, ac Eighteenth-Century Women Poets and their Poetry: Inventing Agency, Inventing Genre (enillydd Gwobr Modern Language Association Lowell).
Mae hon yn ddarlith gyhoeddus ac mae croeso i bawb.
au36113