Pantycelyn

Pantycelyn

Pantycelyn

07 Hydref 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo yn llwyr i gynyddu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac o wneud hynny, sicrhau bod ein myfyrwyr yn medru cyfrannu at gynnal a datblygu ethos cymunedol Cymraeg y Brifysgol.

Mae’r Brifysgol yn buddsoddi £45 miliwn yn llety Fferm Penglais ac fel rhan o’r datblygiad hwn bydd  llety Cymraeg mewn ardal benodedig gydag ardal gymdeithasol benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a bydd yn agos at brif adeilad y Porth, ar gyfer holl breswylwyr Fferm Penglais.

Bydd y llety newydd o safon uchel ac yn fflatiau hunanarlwyo o rhwng 6 ac 8 ystafell wely, pob un gyda chyfleusterau en-suite, cegin / ystafell fwyta / lolfa a theledu.

Mae’n ddyddiau cynnar i ni o safbwynt ystyried opsiynau ar gyfer defnydd adeilad Pantycelyn i’r dyfodol. Bydd y Brifysgol nawr yn cychwyn ar ymarferiad busnes i ystyried opsiynau ar gyfer defnydd adeilad Pantycelyn i’r dyfodol.

Felly mi fydd Pantycelyn yn parhau i fod yn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg (fel y mae hi’n nawr) yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15.

Mae cynrychiolwyr y myfyrwyr wedi cael eu cynnwys ar hyd y blynyddoedd mewn trafodaethau ar natur y llety newydd a’r adnoddau a fydd ar gael iddynt.

Cafodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon, a’r Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant ac Ymgysylltu Allanol, gyfarfod adeiladol gyda chynrychiolwyr yn dilyn y rali heddiw.

Mae’r Brifysgol yn awr yn edrych ymlaen at parhau i drafod gyda myfyrwyr Cymraeg, Pwyllgor Neuadd Pantycelyn ac UMCA, y ddarpariaeth fydd yn Fferm Penglais a sut y gallwn adeiladu a datblygu’r ethos Gymraeg  yno.

AU35113