Enillydd InvEnterPrize yn cofleidio Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd
25 Medi 2013
I gyd-fynd â Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yfory (26 Medi), mae enillydd y gystadleuaeth InvEnterPrize Prifysgol Aberystwyth, Jake Stainer, yn cynnig ystod o gyrsiau iaith Saesneg a Sbaeneg ar-lein a rhyngweithiol.
Enillodd Jake, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Marchnata a Sbaeneg, y wobr werth £20,000 ym mis Mawrth 2013 am ei gwefan dysgu iaith ar-lein o'r enw Papora www.papora.com
Gellir cael mynediad i’w gyrsiau ar-lein ar ei wefan neu drwy ap sydd ar gael ar iPad. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i sicrhau bod y cyrsiau ar gael ar iPhone yn hwyrach eleni.
Nod Papora yw dod â dysgwyr a siaradwyr cynhenid at ei gilydd er mwyn cyfnewid ieithoedd. Eisoes mae ganddi 13,000 o ddefnyddwyr o 135 o wledydd yn dysgu mwy na 100 o ieithoedd.
Esboniodd Jake, fydd yn byw ac yn gweithio yn Sbaen y tymor hwn fel rhan o'i radd, "Mae'r gefnogaeth yr wyf wedi derbyn o ganlyniad i'r gystadleuaeth yma wedi fy ngalluogi i ddatblygu cyrsiau rhyngweithiol sydd wir yn trochi’r defnyddwyr yn yr iaith, y bobl a'r diwylliant yn y gwledydd hynny lle mae'r iaith yn cael ei siarad.
"Heb y gefnogaeth hon, ni fyddwn wedi gallu torri i mewn i'r farchnad apiau a buaswn wedi colli cyfle busnes gwerthfawr."
Dywedodd Tony Orme, Rheolwr Menter gan yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn Aberystwyth, "Mae haelioni’r adran alumni yn y Brifysgol i gefnogi gwobr mor sylweddol wedi galluogi Jake i wneud newid sylweddol wrth ddatblygu a thyfu'r busnes.
"Yn ogystal â hyn, mae'r gystadleuaeth InvEnterPrize wedi ein galluogi i ymgysylltu gyda rhai myfyrwyr entrepreneuraidd iawn ac i helpu cefnogi amrywiaeth fusnesau bychain sydd wedi dechrau gan raddedigion."
Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn bosib drwy Gronfa Flynyddol Prifysgol Aberystwyth, arian a gesglir gan gyn-fyfyrwyr i helpu i ariannu nifer o brosiectau.
Cafodd Jake ei ysbrydoli i sefydlu Papora yn dilyn taith gyfnewid i ddinas Gijon yn Sbaen yn 2007, a’i awydd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a gwella ei Sbaeneg. Nawr ar ôl dychwelyd i Sbaen, bydd Jake yn gallu canolbwyntio ar dyfu ei fusnes wrth drochi yn y diwylliant Sbaeneg.
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth InvEnterPrize gyntaf, bydd y gystadleuaeth yn 2013/14 yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac fe fydd yn cael ei lansio yn yr Hydref. Er mwyn cadw i fyny a’r newyddion diweddaraf ynglyn â'r gystadleuaeth, ewch i www.aber.ac.uk/inventerprize
au35413