Argyfwng Syria – Tu Hwnt i’r Penawdau
Cerbydau wedi ei bomio yn ninas Aleppo yn ystod rhyfel cartref Syria. Llun: Voice of America News.
24 Medi 2013
Bydd trafodaeth ar y gwrthdaro yn Syria a fydd yn mynd i'r afael a themâu megis diogelwch, effeithiolrwydd a moeseg y defnydd o rym milwrol a chyd-destun hanesyddol y sefyllfa gymhleth hon, yn cael ei chynnal ddydd Iau 26 Medi ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd y noson, a gynhelir rhwng 6 a 7.30 o’r gloch yr hwyr, yn dechrau gyda thrafodaeth bord gron rhwng staff academaidd yn y Brifysgol, ac yna bydd cyfle i aelodau'r gynulleidfa i ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau a chymryd rhan mewn trafodaeth gyda'r siaradwyr.
Eglurodd Dr Jenny Mathers, Pennaeth yr Adran ac arbenigwraig ar wleidyddiaeth a diogelwch Rwsia; "Mae'r gwrthdaro yn Syria wedi dominyddu’r penawdau yn ystod yr wythnosau diwethaf ac rydym yn gobeithio y bydd y drafodaeth hon yn helpu i dynnu sylw at rai o agweddau llai cyfarwydd yr argyfwng.
"Mae llawer o’r sylw yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar ystod gul iawn o esboniadau a phresgripsiynau polisi, ond mae argyfwng Syria yn cynnwys llawer o elfennau cymhleth.
"Bydd aelodau o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gallu cyfeirio at faterion dwfn a sylfaenol yn ogystal â’r goblygiadau posibl i’r rhanbarth, a’r ffordd y mae'r gymuned ryngwladol yn ymateb i dorri cytundebau rhyngwladol, rhyfeloedd cartref ac argyfyngau dyngarol.
"Rydym yn gobeithio y bydd aelodau o'r gymuned leol yn ogystal â myfyrwyr a staff y Brifysgol yn mynychu’r digwyddiad hwn", ychwanegodd.
Bydd wyth o siaradwyr yn cymryd rhan yn y ddadl; Yr Athro Mike Foley, Dr Jenny Mathers, Dr Jan Ruzicka, Dr Kristian Stoddart, Dr Ayla Gol, Dr Kamila Stullerova, Dr Grant Dawson a Dr Jim Vaughan.
Mae ymchwil yr Athro Mike Foley yn cynnwys gwaith ar wleidyddiaeth arlywyddol, theori gyfansoddiadol, polisi tramor, a hanes syniadau. Mae ei ymchwil gyfredol yn cynnwys astudiaeth eang o arweinyddiaeth wleidyddol yn ei wahanol gyd-destunau.
Dr Jenny Mathers yw Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae ei dysgu ac ymchwil yn rhychwantu dau faes eang: gwleidyddiaeth a diogelwch Rwsiaidd; a rhyw a rhyfel. Mae’r gwaith a gyhoeddwyd ganddi yn mynd i'r afael â phynciau megis arfau niwclear, rhyfeloedd Rwsia yn Chechnya a menywod sy'n gwasanaethu fel milwyr mewn byddinoedd y wladwriaeth.
Mae diddordebau ymchwil Dr Ruzicka yn rhannu i dri phrif faes: astudiaethau diogelwch, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, ac astudiaethau ardal gyda phwyslais ar Ganolbarth Ewrop. Mewn astudiaethau diogelwch ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddamcaniaethau o ddiogelwch, y berthynas rhwng gwleidyddiaeth a diogelwch, arfau niwclear a bygythiadau i ddiogelwch sy'n dod i'r amlwg.
Mae ymchwil Dr Kristian Stoddart yn ymdrin ag arfau niwclear byd-eang a hanes niwclear, maes Astudiaethau Cudd-wybodaeth ac yn gynyddol mewn materion sy’n ymwneud â thechnoleg newydd a Diogelwch Syber. Mae Kristian yn gwasanaethu fel Ysgrifennydd Gweithredol y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol (CIISS) ac mae hefyd yn aelod o’r Prosiect ar Faterion Niwclear sy’n cael ei redeg gan y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Strategol a Rhyngwladol (Washington DC).
Mae diddordebau ymchwil Dr Ayla Gol yn canolbwyntio ar astudiaethau Islamaidd, cenedlaetholdeb, gwleidyddiaeth hunaniaeth, dadansoddi polisi tramor a gwleidyddiaeth drefedigaethol gan gyfeirio'n benodol at y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA), Ewrasia, y Cawcasws a Thwrci.
Gorwedda maes ymchwil Dr Kamila Stullerova ar y groesffordd rhwng tri is-faes mewn gwleidyddiaeth ryngwladol: damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, damcaniaeth gwleidyddiaeth ryngwladol ac astudiaethau diogelwch.
Ymunodd Dr Grant Dawson a’r Adran ym mis Gorffennaf 2009 fel Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies ar Faterion Rhyngwladol. Cyn hynny bu'n dysgu hanes a gwyddoniaeth wleidyddol i israddedigion a graddedigion ym Mhrifysgol Carleton, Ottawa.
Mae Dr Jim Vaughan yn arbenigo mewn hanes polisi diplomyddol Prydain ac America tuag at y Dwyrain Canol. Mae ei waith ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar y newid mewn agweddau a pholisïau prif bleidiau gwleidyddol Prydain tuag at Seioniaeth, Israel, cenedlaetholdeb Palesteinaidd a'r anghydfod rhwng Arabia ac Israel.
Cynhelir ‘Argyfwng Syria – Tu Hwnt i’r Penawdau’ ar ddydd Iau 26 Medi ym Mhrif Neuadd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth o 6 tan 7.30 yr hwyr.
AU34213