Dyfodol gwasanaethau iechyd gwledig

Yr Arglwydd Elystan Morgan

Yr Arglwydd Elystan Morgan

30 Awst 2013

Bydd yr Arglwydd Elystan Morgan yn cadeirio dadl ar ddyfodol y gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 4 Medi.

Mae'r ddadl, sy’n agored i aelodau o'r cyhoedd, yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ac fe'i cynhelir ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar Gampws Penglais rhwng 4:00 a 6:00 o’r gloch.

Yn 2009, gwahoddywd yr Arglwydd Elystan Morgan gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart, i edrych ar y ddarpariaeth gofal mewn ardaloedd gwledig, a sut y gellid gwella arno.

Cafodd yr adroddiad Rural Health Plan: Improving Integrated service delivery across Wales, ei gyhoeddi yn 2010 ac ynddo roedd nifer o argymhellion ynghylch sut y gallai gwasanaethau sy'n bodoli eisoes eu hintegreiddio er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth.

Dywedodd trefnydd y ddadl Dr Glenys Williams, "Mae'r diddordeb yn parhau yn y mater pwysig hwn o gyflwyno gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru wledig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng Ngheredigion, lle bu trafodaeth hirfaith ynghylch dyfodol ysbyty Bronglais ac ysbytai bwthyn eraill yn y sir. Mae cryn drafod hefyd am y prinder o feddygon a deintyddion; gwasanaethau tu hwnt i oriau, a chau cymorthfeydd gwledig.

"Wrth gwrs, mae materion wedi symud ymlaen ers hyn, ond mae'r ddogfen hon yn parhau i fod yn sail ar gyfer trafodaeth", ychwanegodd Dr Williams, "ac rydym yn mawr obeithio y bydd aelodau o'r gymuned leol yn cymryd y cyfle i fynychu'r digwyddiad hwn, ac yn cyfrannu at yr hyn yr ydym yn gobeithio a fydd yn drafodaeth fywiog."

Mae Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn rhan o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

AU32913