Prifysgolion gorau’r byd

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y  cyfeiriadau at ei waith ymchwil o Aberystwyth, o 56.6 i 64.3 rhwng 2011-12 a 2012-13.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cyfeiriadau at ei waith ymchwil o Aberystwyth, o 56.6 i 64.3 rhwng 2011-12 a 2012-13.

28 Awst 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o'r 300 o brifysgolion gorau yn y byd yn ôl cynghrair prifysgolion y byd 2012-13 y Times Higher Education.

Mae 400 o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd wedi eu cynnwys yng nghyngrair y Times Higher Education World University Rankings 2012-13 ac mae eu perfformiad wedi ei fesur ar sail addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.

Defnyddiwyd 13 o ddangosyddion perfformiad er mwyn darparu'r cymariaethau mwyaf cynhwysfawr a chytbwys, ac y mae myfyrwyr, academyddion, arweinwyr prifysgolion, diwydiant a llywodraethau yn ymddiried ynddynt.

Mae Aberystwyth yn safle 38 o’r 48 o sefydliadau addysg uwch o’r Deyrnas Gyfunol sydd yn ymddangos yn y 400 uchaf, ac yn ail yng Nghymru. Yn y tabl cyfan mae Aberystwyth yn safle 282.

Tra ei bod yn cynnal ei safle yn gyffredinol, gwelodd Aberystwyth gynnydd sylweddol yn nifer y  cyfeiriadau at ei gwaith ymchwil, o 56.6 i 64.3 rhwng 2011-12 a 2012-13.

Yn ôl y Times Higher nifer y cyfeiriadau at waith ymchwil (citations) yw’r prif ddangosydd o’r 13 a ddefnyddiwyd, ac mae’n adlewyrchiad o gyfraniad prifysgolion wrth iddynt rannu gwybodaeth a syniadau newydd a nifer y troeon y mae ysgolheigion ar draws y byd wedi cyfeirio at waith a gyhoeddwyd gan brifysgol.

Mae mwy na 50 miliwn o gyfeiriadau at 6 miliwn o erthyglau mewn cyfnodolion a gyhoeddwyd rhwng 2006 a 2011 wedi eu dadansoddi er mwyn creu'r dangosydd hwn.

Ymysg y sgoriau eraill am nifer y cyfeiriadau at waith ymchwil mae rhai prifysgolion Bath (50.2), Queens Belfast (52.2) a Chaerdydd (60.2).

Gwelodd Prifysgol Aberystwyth gynnydd hefyd yn ei sgorau Addysgu (o 19.8 i 23.8) ac Ymchwil (o 15.5 i 21.7).

Croesawyd y canlyniadau gan yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Safon Academaidd newydd Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd; “Mae’r canlyniadau yma unwaith eto yn cadarnhau lle Aberystwyth ymysg prifysgolion gorau’r byd. Mae’r cynnydd yn nifer y cyfeiriadau at waith ymchwil yn arbennig o bwysig - mae’n dystiolaeth o berthnasedd rhyngwladol yr ymchwil yn ogystal â’i safon”.

Ychwanegodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr; “Mae’n bleser gweld bod ein hymrwymiad i ddarparu profiad myfyrwyr gwych a’n buddsoddiad mewn adnoddau a chyfleusterau dysgu yn cael ei gydnabod yn y canlyniad hwn”.

Mae rhagor o wybodaeth am y Times Higher Education World University Rankings ar gael yma

AU32613