Canllaw Clirio
13 Awst 2013
Gyda Chlirio yn agosau, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud y broses mor hawdd â phosib eleni drwy greu canllaw fideo i helpu unigolion i lywio eu ffordd drwy'r system http://www.youtube.com/watch?v=kUdVq8CWAHk
Os yw eich canlyniadau arholiad yn wahanol i’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, peidiwch â phoeni oherwydd mae nifer o gyrsiau ar gael trwy Glirio ac fe allai’r broses eich arwain at y cwrs delfrydol i chi.
Yn ogystal â'r canllaw fideo, gall unigolyn gysylltu ag Aberystwyth trwy ddefnyddio'r blwch sgwrsio yn fyw ar y wefan neu drwy dudalennau Twitter a Facebook y Brifysgol. Cymerwch ran yn y sgwrs ac anfonwch eich ymholiadau drwy ddefnyddio #AskAber lle byddwch hefyd yn gallu gweld cwestiynau pobl eraill http://bit.ly/15xEgAl
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Ymchwil, Menter ac Ymgysylltu, yr Athro Martin Jones, "Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion ledled y Deyrnas Gyfunol yn weithgar yn ystod Clirio eleni oherwydd bod prifysgolion yn gweithredu mewn amgylchedd gwahanol iawn ers cyflwyno ffioedd myfyrwyr.
"Mae'r canllaw fideo yn rhoi cyngor ac awgrymiadau ar beth i'w wneud yn syth ar ôl derbyn eich canlyniadau Lefel A hyd nes bod eich lle yn y brifysgol wedi ei sicrhau. Mae'r Tîm Cymorth Clirio ar gael unrhyw bryd cyn, yn ystod, ac ar ôl diwrnod canlyniadau Lefel A, felly rhowch alwad i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau."
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd mis diwethaf gan Complete University Guide, Aberystwyth yw’r Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr.
Ychwanegodd yr Athro Martin Jones, "Mae mwy a mwy o fyfyrwyr yn dewis dod i Aberystwyth nid yn unig oherwydd ei fod yn le diogel a chyfeillgar i astudio, ond oherwydd mai Aberystwyth yw’r lle i fod. Mae'r amgylchedd academaidd a chymdeithasol yn ogystal â lles corfforol yma yn Aberystwyth yn cynnig profiad o ansawdd uchel i’n myfyrwyr."
Mae Aberystwyth yn gwarantu llety i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, gan gynnwys y rhai hynny sy'n dod trwy Glirio ac Addasu, felly ffoniwch y Tîm Cefnogi Clirio ar 0800 121 4080 os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae 11,700 o fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig yn astudio yn Aberystwyth. Daw tua thraean ohonynt o Gymru, 60% o weddill y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon, gyda'r gweddill o weddill y byd.
Mae canllaw cyflawn Prifysgol Aberystwyth i Clirio ar gael yma http://www.aber.ac.uk/cy/ucasclearing/clearing2013/
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar adroddiad y Complete University Guide ar y wefan: http://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/ .
AU30813