Llwyddiant dramatig
09 Awst 2013
Glesni Haf Jones yw ennillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffuniau eleni.
Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, graddiodd Glesni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn Cymraeg a Drama. Erbyn hyn, mae hi’n gweithio yng Nghaerdydd gyda chwmni Beaufort Research.
Roedd 13 wedi cystadlu eleni am y fedal ac yn ol un o’r beirniaid Geraint Lewis “Mae gan y dramodydd ddawn ysgrifennu a phob clod iddo/i am ddefnyddio ffurf theatrig i gyfathrebu teimladau ac emosiynau mewn ffordd mor gyffrous”
Mae gwaith Glesni, “Dwr Mawr Dyfn”, yn son am ferch ifanc, Tryweryn, sydd ar fin priodi gŵr tipyn yn henach na hi. Mae hi a’i hunig ffrind yn mynd ar ei noson iâr i weld ei thad sydd yn byw yn Lerpwl, prif leoliad y ddrama.
Llongyfarchwyd Glesni gan Dr Jamie Medhurst, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn y Brifysgol. Dywedodd: “Mae’r Adran yn ymhyfrydu eto eleni yn llwyddiant un o’i chyn-fyfyrwyr. Mae camp Glesni yn dilyn llwyddiant Bedwyr Rees llynedd a rydym oll wrth ein bodd.”
au31213