Llwyddiant mewn Arholiad Cymraeg
07 Awst 2013
Mae staff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dathlu derbyn canlyniadau eu harholiad Cymraeg Ail Iaith.
Ar adeg o’r flwyddyn sy’n gweld disgyblion ysgol yn disgwyl yn nerfus am ganlyniadau arholiadau, mae myfyrwyr a staff y Brifysgol sydd ar y cyrsiau a gynhelir gan dîm Cymraeg i Oedolion y Brifysgol yn cael eu hysbysu o’u llwyddiant.
Ymhlith y myfyrwyr sy’n dathlu y mae dwy reolwraig o fewn y Brifysgol, gan gynnwys yr Is-Ganghellor, Yr Athro April McMahon.
Cafodd Dr Sarah Taylor, Pennaeth Datblygu Strategol yn Swyddfa Gynllunio’r Brifysgol a’r Athro April McMahon wybod eu bod wedi llwyddo yn eu Tystysgrif Lefel Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.
Mae’r arholiad yn profi’r holl sgiliau iaith gwahanol ac yn cwmpasu gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, ac yn rhoi sylfaen rhagorol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn hyderus, yn gymdeithasol ac yn y gwaith.
Wrth sôn am ei llwyddiant, meddai’r Athro April McMahon: “Rydw i wrth fy modd i fod wedi llwyddo, ac mae’n brawf o waith caled y tiwtoriaid a’r cydweithwyr rhagorol sy’n arwain y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn y Brifysgol. Fel ieithydd, rydw i yn naturiol yn mwynhau dysgu ieithoedd newydd ac mae gallu gweithio a byw yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg yn wych. Rwy’n annog pob myfyriwr ac aelod staff i wneud y mwyaf o’r cyfle a’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw yn y Brifysgol i ddysgu ac ehangu eu gwybodaeth o’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Dr Taylor: “Roeddwn i wrth fy modd i basio’r arholiad Sylfaen ac rwy’n dwli dysgu Cymraeg. Mae fy nhiwtor, Brian Ishmael, yn hynod o gefnogol ac mae fy nghydweithwyr yn Aberystwyth wedi bod yn eithriadol o amyneddgar gyda mi, a’m hannog i ymarfer cymaint â phosibl. Defnyddio’r iaith yw’r ffordd orau i ddysgu. Roedd yn hyfryd mynd i’r Eisteddfod eleni a theimlo’n ddigon hyderus i siarad â phobl yn Gymraeg. Y mae’n iaith hardd sy’n hwyl i’w dysgu a byddwn yn annog unrhyw un i roi tro arni.”
Y mae’r Brifysgol yn annog myfyrwyr ac aelodau staff yn weithredol i ddysgu Cymraeg. Y mae UMCA, sef Undeb y Myfyrwyr Cymraeg, yn darparu cyrsiau am ddim i fyfyrwyr ac y mae’r Brifysgol yn darparu cyfres o gyfleoedd am ddim i staff i ddysgu Cymraeg.
Meddai Siôn Meredith, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion, Canolfan Canolbarth Cymru: “Rydyn ni’n falch o lefel y ddarpariaeth sydd ar gael i holl aelodau’r gymuned leol, sydd wrth gwrs yn cynnwys ein staff a’n myfyrwyr, ac o’r modd y mae fy nghydweithwyr cymwysedig a brwdfrydig yn rhoi cefnogaeth a chyfleoedd mentora i unigolion sy’n dymuno dysgu’r Gymraeg. Rwy’n llongyfarch yr holl fyfyrwyr a dymuno’n dda iddynt ar eu taith wrth iddynt barhau i ddysgu a defnyddio’r iaith.”
Safodd cyfanswm o 141 o fyfyrwyr ledled Canolbarth Cymru yr arholiadau yn ddiweddar.
Anogir unigolion sy’n dymuno dysgu’r Gymraeg i gysylltu â Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn http://www.learnwelshinmidwales.org/stm.php?lang=en& neu trwy ffonio: 0800 876 6975D