Pam Cyfieithu i’r Gymraeg?

06 Awst 2013

Bydd stondin Prifysgol Aberystwyth yn llawn o leisiau llenyddol o bedwar ban byd rhwng 10 ac 11 y bore ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod, pan fydd Mererid Hopwood, Sioned Puw Rowlands, Dewi Huw Owen ac eraill yn cyflwyno cyfres o drafodaethau meicro ar y testun ‘Pam Cyfieithu i’r Gymraeg?”, gan drafod y pwnc yng ngoleuni eu profiadau personol a phroffesiynol.

Wedi hynny, bydd Ned Thomas yn traddodi ei feirniadaeth ar Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru eleni ac yn cyflwyno gwobr y gystadleuaeth i’r buddugwr.

Trefnir y digwyddiad yng nghyd-destun prosiect ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn Sefydliad Mercator, sef prosiect a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i lunio Catalog Disgrifiadol Ar-lein o Gyfieithiadau i’r Gymraeg yn y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd Dewi Huw Owen yn trafod ei ymchwil personol ar y tri chyfieithiad Cymraeg o Hamlet, a Sioned Puw Rowlands yn cyflwyno atodiad cyfieithu newydd a olygwyd ganddi ar gyfer y cyfnodolyn llenyddol Taliesin.

Yr Her Gyfieithu eleni, a drefnir gan Dŷ Cyfieithu Cymru, fydd cyfieithu tair cerdd gan un o feirdd mwyaf nodedig Ciwba, Víctor Rodríguez Núñez. Ymunwch â’r beirniad Ned Thomas wrth iddo gyhoeddi’r buddugwr yn yr  Her, a’i gwobrwyo â gwobr draddodiadol yr Her, sef Ffon y Pencerdd, a gerfiwyd o goedyn o ardal Llanystumdwy. Noddir y digwyddiad gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Noddir y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae Tŷ Cyfieithu Cymru'n fenter ar y cyd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.

Felly cofiwch alw draw i babell Prifysgol Aberystwyth am 10:00 ar Ddydd Mawrth, a pheidiwch ag anghofio digwyddiad arall sy’n ymwneud â chyfieithu a gynhelir ar y diwrnod canlynol am ganol dydd yn Theatr y Maes, pan fydd ‘Carnifal’, sef cyfieithiad Cymraeg Jan Piette o ddrama Lydaweg wreiddiol Roparz Hemon, ‘Meurlarjez’, yn cael ei pherfformio gan Gwmni’r Frenigen, Mercator, sef cwmni drama o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Ail-ddarganfuwyd y ddrama un act hon trwy waith y Prosiect Catalogio a chyfarwyddir y cynhyrchiad llwyfan arbennig hwn ohoni gan Roger Owen o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Pam Cyfieithu i’r Gymraeg?, Dydd Mawrth, 6ed o Awst am 10am ar stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

AU30113