Fflachlifoedd Cymru: ddoe a heddiw
05 Awst 2013
Bydd Dr Cerys Jones o Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth yn trafod llifogydd y gorffennol ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod heddiw, dydd Llun, 5ed Awst am hanner dydd.
Bydd Dr Jones, sy’n ddarlithydd y Coleg Cymraeg mewn Daearyddiaeth yn trafod a yw'r ffyrdd y mae pobl yn cael eu heffeithio gan lifogydd wedi newid dros yr oesau? A ydym ni’n ymateb i lifogydd mewn ffyrdd gwahanol heddiw? Beth oedd rôl y wasg wrth ledaenu’r newyddion?
Meddai Dr Jones; “Y gobaith yw ateb y cwestiynau hyn gan ddefnyddio ymchwil i lifogydd Ceredigion 167 o flynyddoedd yn ôl – yn ystod haf 1846. Ychydig iawn sydd wedi ymchwilio i’r llifogydd dinistriol hyn; fflachlifoedd a laddodd ddau berson, ac a chwalodd dai, ffyrdd a phontydd ar hyd afonydd Ceredigion.”
Wrth ddefnyddio tystiolaeth o adroddiadau papur newydd o’r cyfnod, daeth Dr Jones i’r casgliad bod glaw trwm wedi cwympo ar ardal o dir uchel yng Ngheredigion o’r enw Mynydd Bach, gan arwain at fflachlifoedd ar y 30ain o Orffennaf a’r 2il o Awst, 1846. Bu farw dau ddyn oedd yn marchogaeth adref. Wrth agosai at bentref Talsarn, ysgubwyd y ceffylau a’u marchogwyr gyda’r llif.
Ceir amryw o hanesion am y difrod a achoswyd ar hyd afonydd Aeron, Arth, Peris a Chledan: difrodwyd hyd at 70 o bontydd; 19 o dai yn Aberarth a Phennant; capeli Aberarth a Llanon; a, mynwent Llansantffraid (ger Llanon). Fe’u hysgubwyd i’r môr a daethpwyd o hyd i weddillion mor bell â thraethau Arfon, gogledd Cymru.
Ceisiodd trigolion Aberarth ail-adeiladu pont y pentref wedi’r fflachlif gyntaf. Ond, yn ddiarwybod iddyn nhw, roedd ton arall ar y ffordd ac, ar yr 2il o Awst, chwalwyd eu hymdrechion.
“Mae’n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth pobl am lifogydd y gorffennol er mwyn eu hannog i gadw’r risg o lifogydd mewn cof ac ystyried sut y gallant baratoi ac amddiffyn eu hunain a’u heiddo rhag llifogydd o’r fath”, dywedodd.
Mae Dr Jones a'i chydweithiwraig Dr Sarah Davies o Brifysgol Aberystwyth, ill dwy yn gyd-ymchwilwyr ar gais llwyddiannus i thema ymchwil 'Gofal ar gyfer y Dyfodol' Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yr AHRC.
Bydd y prosiect 3 blynedd, ’Mannau o brofiad a gorwelion disgwyliad’ :oblygiadau digwyddiadau tywydd eithafol y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn defnyddio cyfuniad o ffynonellau dogfennol archifol a dulliau hanes llafar. Bydd y tîm yn ymchwilio i sut mae pobl wedi deall , eu heffeithio gan ac yn ymateb i eithafion tywydd dros y tair canrif diwethaf ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Fflachlifoedd Cymru: ddoe a heddiw, dydd Llun, 5ed Awst am 12pm ar stondin y Brifysgol.
au30113