Preswylfeydd £45m newydd i fyfyrwyr
Preswylfeydd myfyrwyr Fferm Penglais
05 Awst 2013
Cyhoeddodd Balfour Beatty, y cwmni sy'n gyfrifol am ddylunio ac adeiladu preswylfeydd newydd gwerth £45m i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, fod y cynllun wedi derbyn cefnogaeth lawn gan fuddsoddwyr.
Mewn datganiad i Gyfnewidfa Stoc Llundain heddiw, dydd Llun 5 Awst, cyhoeddodd Balfour Beatty ei fod wedi sicrhau cyflawniad ariannol ar ddau ddatblygiad mawr yn y Deyrnas Gyfunol, cynllun Llety Myfyrwyr Fferm Penglais Prifysgol Aberystwyth sy’n werth £45m a chynllun £63 miliwn Phrifysgol Caeredin i adeiladu Llety i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a Chanolfan Allgymorth yn Holyrood.
Ym mis Chwefror cyhoeddwyd mai Balfour Beatty oedd cynigydd ffafredig Prifysgol Aberystwyth ar gyfer y datblygiad yn dilyn proses o ddeialog gystadleuol a’i gwelodd yn drech na nifer o gwmnïau adeiladu blaenllaw eraill.
Mae cyhoeddiad dydd Llun yn cadarnhau mai Balfour Beatty yw Partner Datblygiad Preswyl Prifysgol Aberystwyth.
Bydd Llety Myfyrwyr Fferm Penglais yn cynnig y diweddaraf mewn llety sydd wedi ei adeiladu yn bwrpasol ar gyfer 1000 o fyfyrwyr.
Bydd ystafelloedd unigol yn fwy na dim y mae'r Brifysgol wedi ei gynnig o'r blaen ac mae'r datblygiad yn cynnwys 100 o fflatiau stiwdio a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
Wedi'u lleoli o fewn pellter cerdded hawdd i Gampws Penglais y Brifysgol, bydd y preswylfeydd newydd yn cynnig digon o le i fyw ac astudio, â mynediad i’r we drwy rwydwaith gwifrau caled neu Wi-Fi.
Wedi'i ysbrydoli gan dirwedd a phensaernïaeth y Gymru wledig, mae’r datblygiad newydd yn cynnwys cyfres o adeiladau dau neu dri llawr gyda fflatiau ar gyfer chwech neu wyth o fyfyrwyr mewn llety hunanarlwyo.
Bydd lle canolog hefyd yn darparu ystod o swyddogaethau cymdeithasol, dysgu a byw gan gynnwys golchdai, storfeydd beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chyfleusterau cyfrifiadurol. Bydd hefyd gae chwaraeon glaswellt newydd.
Disgwylir i’r myfyrwyr cyntaf symud i mewn ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd 2014 a bydd y gymuned o fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn byw ym Mhantycelyn ymhlith y cyntaf i fyw yno.
Adeiladwyd Pantycelyn yn 1951, ac agorodd yn neuadd ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn 1973 a denodd genedlaethau o bobl ifanc a oedd yn dymuno astudio a byw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cip olwg ar y cynlluniau
Yn wahanol i'r Pantycelyn presennol, sydd wedi aros bron yn ddigyfnewid ers agorwyd y drysau dros 60 mlynedd yn ôl, bydd y Pantycelyn newydd yn cynnig llawer mwy.
Ac mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhan o'r broses o helpu'r Brifysgol i sicrhau bod y preswylfeydd newydd yn adlewyrchu dyheadau a blaenoriaethau UMCA ( Undeb y Myfyrwyr Cymraeg) ac Undeb y Myfyrwyr fel bod y datblygiad cyfan yn gweithio i wella profiad y myfyrwyr.
Mae tîm prosiect y Brifysgol wedi cael ei arwain gan Mr James Wallace, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Campws. Dywedodd: "Gyda'r cyhoeddiad hwn heddiw mae Balfour Beatty yn pwysleisio ei ymrwymiad llawn i ddarparu'r llety myfyrwyr newydd o’r safon uchaf yr ydym wedi cytuno arno fel partneriaid ac y bydd yn barod mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014. Mae'n nodi'r garreg filltir ddiweddaraf yn natblygiad un o'r cyfleusterau newydd pwysicaf i gael eu hadeiladu yma yn Aberystwyth ers cenhedlaeth.
"Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y profiad gwych mae’n ei gynnig i fyfyrwyr, a bydd yr ychwanegiad pwysig hwn yn sicrhau y bydd gennym fwy o ystafelloedd en-suite a fflatiau stiwdio er mwyn cwrdd â disgwyliadau myfyrwyr, a’r cyfan ar safle hardd o fewn pellter cerdded hawdd i’n prif gampws", ychwanegodd.
Dywedodd Andrew McNaughton, Prif Swyddog Gweithredol Balfour Beatty: ""Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, y gymuned a’r gadwyn gyflenwi leol er mwyn cwblhau’r prosiect hwn. Bydd yr adnoddau newydd yn galluogi’r Brifysgol i gynnig gwell profiad i’r myfyrwyr drwy ddarparu llety o safon uchel mewn modd cynaliadwy.”
Bydd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau myfyrwyr yn y preswylfeydd newydd, tra bydd Balfour Beatty yn gyfrifol am gynnal a chadw'r adeiladau.
au27913