Eisteddfod Genedlaethol 2013

02 Awst 2013

Os ydych am guddio rhag y glaw, neu gysgodi rhag yr haul, beth bynnag fo’r tywydd dros wythnos yr Eisteddfod, bydd y croeso yn gynnes ar stondin Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni rhwng yr 2il a’r 10fed Awst.

Dewch heibio i holi cwestiynau am y Brifysgol os ydych yn ddisgybl ysgol, neu dewch i hel atgofion os ydych eisoes wedi bod yn y Coleg ger y Lli! Bydd croeso hefyd i athrawon ddod draw am dro ac i gael sgwrs gyda staff ynglŷn â’r cyfleoedd astudio yn y Brifysgol. Caiff plant ddod i dynnu llun, a dod i gyfarfod â Dewi’r Dolffin, masgot arbennig y Brifysgol!

Bydd gennym gyfrifiaduron ar y stondin gyda mynediad i’r rhyngrwyd am ddim drwy gydol yr wythnos a bydd modd gwylio’r Eisteddfod ar ein sgrin deledu hefyd.

Yn ogystal â hyn, cynhelir nifer o weithgareddau a digwyddiadau ar y stondin yn ystod yr wythnos. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

Dydd Llun- 5ed Awst am12pm: Fflachlifoedd Cymru: ddoe a heddiw

Tarodd fflachlif ogledd Ceredigion yn ystod haf 2012. Bydd y sgwrs hon, gan Dr Cerys A Jones, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, yn trafod y digwyddiad hwn yng nghyd-destun llifogydd y gorffennol. Croeso i bawb.

Dydd Mawrth -6ed Awst am 10am: Pam Cyfieithu i’r Gymraeg?

Bydd pabell Prifysgol Aberystwyth yn llawn o leisiau llenyddol o bedwar ban byd rhwng 10 ac 11 y bore ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod, pan fydd Mererid Hopwood, Sioned Puw Rowlands, Dewi Huw Owen ac eraill yn cyflwyno cyfres o drafodaethau meicro ar y testun ‘Pam Cyfieithu i’r Gymraeg?”, gan drafod y pwnc yng ngoleuni eu profiadau personol a phroffesiynol. Wedi hynny, bydd Ned Thomas yn traddodi ei feirniadaeth ar Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru eleni ac yn cyflwyno gwobr y gystadleuaeth i’r buddugwr.

Dydd Mercher – 7ed Awst am 12pm: Lansiad ‘Lygad yn Llygad’

Bydd Huw Meirion Edwards o Adran y Gymraeg yn lansio ei gasgliad cyntaf o gerddi, Lygad yn Llygad, a gyhoeddir gan Wasg y Bwthyn. Croeso i bawb.

2-4pm: Derbyniad i Alumni a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Caiff y derbyniad hwn ei gynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a’r Brifysgol. Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw gyfnod i ddod i gwrdd â’i gilydd ar faes yr Eisteddfod. Davies.

Dydd Iau -8fed o Awst am 11am: Gwaed ar y Glo: Damweiniau, anafiadau ac anabledd yn y diwydiant glo yng Nghymru

Yn seiliedig ar brosiect ymchwil a ariannir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, dyma gyflwyniad ar y peryglon a wynebai glowyr yng Nghymru yn eu gwaith beunyddiol. Bydd Dr Steve Thompson o’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn ystyried natur gwaith dan ddaear, y damweiniau a ddigwyddodd, a’r anafiadau ac anableddau a oedd yn sgil-effaith i’r amodau gwaith peryglus, trwy ystyried gwahanol ffynonellau gwreiddiol gan gynnwys baledi, barddoniaeth, papurau newydd a delweddau. Dewch i ddarganfod mwy am sut y wynebodd ein tadau a’n teidiau beryglon wrth weithio dan-ddaear a sut y gwnaethant dalu pris uchel am y glo.

Dydd Gwener 9fed o Awst am12pm: Myfyrwyr Meistr  yn trafod pynciau cyfoes ac o bwys i Gymru

Bydd tri o fyfyrwyr disglair Rhaglen Feistr Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhannu eu prosiectau ymchwil ar y stondin heddiw. Mae’r rhain yn brosiectau sy’n cael eu hariannu drwy’r cynllun Mynediad i Feistr mewn cydweithrediad â chwmnïau lleol - FBA, Golwg360 ac UCAC ac yn cyffwrdd ar bynciau cyfoes ac o bwys i Gymru.

2 – 4pm
Lansiad dathliadau UMCA 40 ac Aduniad Ganol Haf

Caiff dathliadau UMCA 40 eu lansio ar stondin y Brifysgol heddiw yn ystod yr aduniad ganol haf. Ceir adloniant gan y myfyrwyr Catrin Herbert a Gruffudd Antur.

Mae  nifer o ddigwyddiadau ar y gweill i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon, gan gynnwys, cinio cyn-lywyddion UMCA a chyn-wardeniaid Pantycelyn, SŴN Pen-blwydd UMCA, Gig UMCA 40 a diwrnod agored ym Mhantycelyn gydag arddangosfa a stondinau. Bwriedir creu arddangosfa fawr er mwyn nodi a dathlu hanes UMCA. Felly os oes gennych rywbeth i rannu – boed yn rhywbeth mawr neu fach, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni!

Cofiwch hefyd ar:

Dydd Mercher 7fed o Awst am 12pm yn Theatr y Maes

Mae cwmni drama o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi ennill eu lle yn rownd derfynol  cystadleuaeth i berfformio drama un act yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

O dan arweiniad eu cyfarwyddwr Dr Roger Owen o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, bydd Gwion James, Sian Owens, Carys Jones a Lucy Andrews yn llwyfannu'r ddrama Carnifal, cyfieithiad Cymraeg gan Jan Piette (cyn Ddarlithydd mewn Llydaweg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth) o'r ddrama Llydaweg Meurlarjez gan yr awdur enwog Roparz Hemon.

Cynhelir y perfformiad yn Theatr y Maes am 12 o'r gloch ar ddydd Mercher 7fed o Awst.

Dydd Iau 8fed o Awst am 10am ym Mhabell y Cymdeithasau 1

Am 10am ar fore Iau’r Eisteddfod, bydd Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cadeirio panel fydd yn trafod y pwnc ‘Cynllunio Dyfodol i’r Gymraeg: Adnabod y Bylchau Gwybodaeth’. Bydd y drafodaeth yn ystyried beth yw natur y materion sydd angen i ni ddatblygu dealltwriaeth well ohonynt er mwyn dyfnhau effeithiolrwydd y cynllunio presennol a wneir mewn perthynas â’r Gymraeg.

Am wybodaeth bellach am ein holl ddigwyddiadau ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/eisteddfod/

AU30113