Cydnabyddiaeth i Aberystwyth gan Gay by Degrees

Gay by Degrees

Gay by Degrees

27 Mehefin 2013

Aberystwyth yw un o'r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Gyfunol am gefnogi myfyrwyr hoyw, lesbiaidd a deurywiol yn ôl y rhifyn diweddaraf o’r canllaw prifysgol Gay by Degree University Guide 2014, sydd wedi ei gynhyrchu gan Stonewall.

Gyda sgôr o 9 allan o 10, mae Aberystwyth yn un o 21 o brifysgolion i dderbyn y teitl Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall. Cyfartaledd sgôr ymysg prifysgolion yw 4.5.

Cymeradwywyd Aberystwyth gan Stonewall am ei pholisi gwrth-fwlio homoffobig a hyfforddiant gorfodol, cefnogaeth lles benodol a gwybodaeth i fyfyrwyr LHDT, cymdeithas a digwyddiadau LHDT, ymgynghori a gofal penodol ar gyfer myfyrwyr LHDT, rhwydwaith staff LHDT ac ymgysylltu â'r gymuned ehangach.

Dywedodd Olymbia Petrou, Cynghorydd Cydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae’r rhwydweithiau LHDT myfyrwyr a staff wrth eu boddau gyda'r canlyniad. Mae'r rhwydweithiau yn gweithio'n galed er mwyn meithrin amgylchedd groesawgar a chyfeillgar i holl fyfyrwyr a staff yn Aberystwyth. Rydym yn falch o'r cynnydd cyson sydd wedi cael ei wneud, e.e. mae mwy yn mynychu AberBalch nac unrhyw gymdeithas LHDT arall yng Nghymru ac mae astudiaethau ‘Queer Theory’ yn cael ei ymgorffori i’r cwricwlwm mewn nifer o adrannau".

Canfu'r astudiaeth fod gan 136 o brifysgolion gymdeithas lesbiaidd, hoyw a deurywiol, er taw dim ond 40 sy’n ymgysylltu â'r gymuned ehangach ar faterion hoyw.

Prifysgolion Caerdydd a John Moores Lerpwl sydd ar frig y tabl. Ymysg y Prifysgolion eraill sy'n sgorio'n uchel mae Birmingham, Canterbury Christ Church, Cumbria, Derby, Portsmouth, Salford, Surrey a Choleg Prifysgol Llundain.

Mae rhifyn 2014 o'r canllaw wedi cael ei gynhyrchu mewn ymgynghoriad ag Ymgyrch LHDT UCM. Rhagor o wybodaeth ar gael yma http://www.gaybydegree.org.uk/.

 

AU23113