Pennaeth newydd i Adran y Gymraeg

Dr Cathryn Charnell-White

Dr Cathryn Charnell-White

27 Mehefin 2013

Mae Dr Cathryn Charnell-White wedi cael ei phenodi yn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cadarnhawyd y penodiad gan Gyngor y Brifysgol ar ddydd Llun 24 Mehefin ac mae’n ganolog i gynllun strategol uchelgeisiol y Brifysgol.

Fel Pennaeth Adran y Gymraeg, bydd Dr Charnell-White yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso cyfleoedd ymchwil ar y cyd ym meysydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn ogystal â gwella profiad y myfyriwr drwy gyfrannu at ddatblygu  modiwlau newydd  heriol a chyflogadwyedd myfyrwyr.

Mae Dr Cathryn Charnell-White ar hyn o bryd  yn Gymrawd Ymchwil, yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac yn gyn fyfyrwraig a chyn aelod staff yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn ei phenodiad dywedodd Dr Charnell-White: “Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg mewn cyfnod sy’n gyffrous i’r Gymraeg fel disgyblaeth academaidd ac sy’n gystadleuol o ran datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg y sector Addysg Uwch”, meddai.

“Mae myfyrwyr yr Adran yn mwynhau cyfradd uchel iawn o foddhad ac rwy’n rhagweld ychwanegu at hyn trwy gyfrannu tuag at ddatblygu modiwlau newydd a heriol sy’n torri ar draws cyfnodau hanesyddol penodedig er mwyn canolbwyntio ar themâu, genres, a chysyniadau allweddol sy’n codi o fy ymchwil i ac ymchwil fy nghyd-weithwyr: Cymru’r dychymyg, hunaniaethau Cymreig a Phrydeinig, llenyddiaeth y tirlun a’r amgylchedd, y cofiant a’r hunangofiant, ffurfio’r canon Cymreig a diwylliant llenyddol dros y canrifoedd, llenyddiaeth rhyfel a heddwch, ysgrifennu menywod, ailysgrifennu’r clasuron Cymreig.

“Byddaf hefyd yn ceisio hybu cyfleoedd ymchwil cydweithrediadol i’r Adran o fewn, ar draws, a thu hwnt i’r Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol newydd y mae hi’n rhan mor werthfawr ohoni. Yn fwy na dim, mi fydd yn fraint cael gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr y mae eu harbenigedd yn rhychwantu llenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd ac yn cwmpasu’r holl ieithoedd Celtaidd, a chyda staff a’m denodd i fyd ymchwil ac addysgu trwy gyfrwng eu dysgu ysbrydoledig.”

Ychwanegodd yr Athro Sarah Prescott, Cyfarwyddwr yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol yn y Brifysgol: "Rwy'n falch iawn bod Cathryn wedi derbyn y swydd ac yn ei chroesawu i rôl newydd Pennaeth Adran y Gymraeg. Daw Cathryn â chyfoeth o sgiliau ac arbenigedd a fydd yn helpu i ddatblygu bywyd academaidd a diwylliannol ehangach yr adran ymhellach."

Enillodd Dr Charnell-White radd BA a PhD o Adran y Gymraeg, Aberystwyth.

Cyn ymuno â staff y Ganolfan, bu’n darlithio ar farddoniaeth merched y ddeunawfed ganrif, a llenyddiaeth gyfoes yn Adrannau Cymraeg Aberystwyth (1998-2000) a Llanbedr Pont Steffan (2000-02).

Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol Llên Cymru, ac o bwyllgor  Gwasg 'Honno ' yn olygydd cyfres Clasuron Honno Cymraeg. Mae hi'n canu’r ffidil yng ngherddorfeydd amatur lleol Philomusica yn Aberystwyth a Cherddorfa Siambr Llanbedr Pont Steffan.

Mae Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth.

Fe’i gosodir ar frig Adrannau Celtaidd y Deyrnas Gyfunol, neu yn agos iddo, yn y tablau cynghrair blynyddol sy’n seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys cyflogaeth graddedigion a bodlonrwydd myfyrwyr.

AU22213