Dirprwy Is-Ganghellor newydd

Yr Athro Chris Thomas

Yr Athro Chris Thomas

26 Mehefin 2013

Mae’r Athro Chris Thomas wedi cael ei benodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth  â chyfrifoldeb dros Ymchwil ac Ansawdd Academaidd.

Cadarnhawyd y penodiad gan Gyngor y Brifysgol ar ddydd Llun 24 Mehefin, ac mae'n ganolog i Gynllun Strategol pum mlynedd uchelgeisiol y Brifysgol.

Ar hyn o bryd yr Athro Thomas yw deiliad Cadair Modelu Ecolegol Canolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig (CIRRE) a chafodd ei benodi i’r swydd yn 2007 fel rhan o Gyngrhair Strategol Aberystwyth Bangor.

Mae'n gyn Gyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol yn IBERS, ac yn ei rôl newydd bydd yn Athro Sŵoleg yn IBERS.

Fel aelod o Dîm Gweithredol y Brifysgol bydd yr Athro Thomas yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer y cyflawni prosesau ansawdd academaidd cadarn, gan arwain ar ffyrdd y gellir ymgorffori ansawdd academaidd ymhellach i fywyd academaidd Prifysgol Aberystwyth.

Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a mynegi strategaeth y Brifysgol mewn perthynas ag ymchwil ac arwain y paratoadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac effaith yr ymchwil hwnnw, gan ei ymgorffori yng nghanol holl weithgarwch ymchwil y Brifysgol.

Mae'r Athro Thomas yn ymchwilydd o fri ac mae ganddo hanes cryf o ymchwil cynhyrchu incwm ac allbwn. Mae ganddo enw da blaenllaw mewn ymchwil ryngddisgyblaethol gan fynd i'r afael â phroblemau cymhleth mewn ecoleg, yr amgylchedd ac iechyd: mae prosiectau cyfredol yn cynnwys trosglwyddo malaria yn Affrica a chlefyd da byw a newid yn yr hinsawdd yn Ewrop.

Meddai’r Athro Thomas : "Rwy’n uchelgeisiol ar gyfer Prifysgol Aberystwyth a'i chyfraniad i gymdeithas fel canolfan ffyniannus ar gyfer addysg ac ymchwil o ansawdd uchel. Mewn byd sy'n newid yn gyflym ceir llawer o broblemau heriol ac rwy’n grediniol bod gan brifysgol ymchwil fel hon rôl i’w chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.

"Mae Aberystwyth yn gymysgedd gwych o athrofeydd ac adrannau sydd â’r potensial i gael effaith gwirioneddol mewn meysydd newydd yn ogystal â'n meysydd mwy traddodiadol . Mae gwaith rhyngddisgyblaethol yn allweddol ac mae angen meddwl yn greadigol, nid yn unig o du staff academaidd – mae  gan fyfyrwyr rôl allweddol i'w chwarae hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at rannu syniadau a helpu’r Brifysgol i gyflawni  ei hamcanion."

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae’n bleser mawr gen i gadarnhau penodiad yr Athro Chris Thomas fel ein Dirprwy-Is-Ganghellor newydd. Mae ei hanes yma yn Aberystwyth a’i weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn rymus iawn a bydd yn allweddol i gyflawni ein hamcanion Ymchwil ac Ansawdd Academaidd.

"Roedd nifer o ymgeiswyr cryf ar gyfer y swydd, sy’n  dystiolaeth bellach o'r cyfoeth o dalent sydd gennym o fewn y Brifysgol.

“Fel Prifysgol, mae gennym weledigaeth uchelgeisiol ac mae ei benodiad yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu sicrwydd ansawdd effeithiol sydd yn lleoli ein myfyrwyr yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud, yn ogystal ag adeiladu ar y gwaith ymchwil arloesol a rhagorol sydd eisoes yn digwydd yma yn Aberystwyth."

Bydd yr Athro Thomas yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Awst 2013.

AU22313