UNESCO
Chwith i’r Dde: Yr Athro Colin McInnes Prifysgol Aberystwyth, y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro W John Morgan, Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol dros UNESCO.
18 Mehefin 2013
Cefnogi Effeithiolrwydd a Diwygio UNESCO: Sut Gall Cymru Gyfrannu
Ar ddydd Iau'r 6ed o Fehefin cynhaliwyd a chyd-drefnwyd cyfarfod undydd gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth i drafod ‘Cefnogi Effeithiolrwydd a Diwygio UNESCO: Sut Gall Cymru Gyfrannu’.
Cafodd y digwyddiad pwysig hwn ei gynnal dan nawdd Comisiwn Cenedlaethol y DG dros UNESCO ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Traddodwyd y prif anerchiad gan y Prif Weinidog, y Gwir Anrh. Anrhydeddus Carwyn Jones.
Roedd yr Athro Gretchen Kalonji (Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol y Gwyddorau Naturiol yn UNESCO) ymhlith llu o siaradwyr lefel uchel a chynrychiolwyr a fu’n trafod y berthynas sydd ohoni ar hyn o bryd ac i’r dyfodol rhwng Cymru ac UNESCO.
Daeth cyfraniadau gan Aberystwyth ar ffurf croeso i’r cynadleddwyr gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Aberystwyth, a’r Athro Colin McInnes deiliad Cadair HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch yn Affrica UNESCO yn Aberystwyth.
AU13513