Labordy’r Traeth

Bydd robotiaid o bob lliw a llun i’w gweld yn Labordy’r Traeth Technocamps.

Bydd robotiaid o bob lliw a llun i’w gweld yn Labordy’r Traeth Technocamps.

14 Mehefin 2013

Bydd pobl ifanc a’u teuluoedd o bob cwr o Gymru’n cael y cyfle i gael profiad o gyfrifiadura yn yr awyr agored yn Labordy’r Traeth, digwyddiad Technocamps a gynhelir ar y Bandstand, Promenâd a thraeth Aberystwyth o 11am i 3pm, ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin 2013. 

Mae’r digwyddiad yn rhan o ddatliadau diwrnod agored Prifysgol Aberystwyth i’r gymuned leol, Mynediad Am Ddim, sydd yn rhedeg o 10 y bore tan 3 y prynhawn ar 22 Mehefin 2013. Mwy o wybodaeth yma: http://www.aber.ac.uk/access-all-areas.

Labordy’r Traeth 2013 yw’r ail ddigwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim i’w gynnal gan dîm Technocamps yn yr Adran Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed i ddatblygu eu sgiliau cyfrifiadura y tu hwnt i’r sgrin a’r allweddell arferol.

Mae’r digwyddiad undydd hwn yn agored i bawb sy’n awyddus i gael profiad o dechnoleg yn yr awyr agored gyda hedfan barcutiaid (gyda chamerâu ar y bwrdd), robotiaid tir a môr, technoleg y gellir ei gwisgo, Raspberry Pis, Arduinos, argraffu mewn 3D, aps symudol a llawer mwy.

Bydd rhai o’r arddangosiadau’n defnyddio rhaglenni a phecynnau a ddyluniwyd gan bobl ifanc o Geredigion a’r siroedd o’i hamgylch sydd wedi bod yn rhan o Technocamps trwy weithdai ysgolion a gwyliau.

Bydd Dr Mark Neal, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un o’r academyddion sydd ynghlwm â Technocamps, wrth law yn Labordy’r Traeth.

Mae Dr Neal yn awyddus i gael cynifer o bobl â phosibl yn rhan o’r diwrnod. Dywedodd: “Roedd Labordy’r Traeth y llynedd yn llwyddiant ysgubol gyda thros 600 o ymwelwyr yn dod i’r Bandstand a’r Promenâd. Roedd gennym hefyd robotiaid yn darlunio ar y traeth ochr yn ochr â barcutiaid gyda chamerâu ar fwrdd. Unwaith eto, bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i bobl ifanc lleol (y bydd rhai ohonynt wedi bod i Technocamps), athrawon, addysgwyr, teuluoedd, darpar fyfyrwyr, twristiaid, gîcs a’r anghyfarwydd – nid oes angen ichi wybod dim am dechnoleg i fwynhau’ch hun yn Labordy’r Traeth.

“Mae llawer o bobl yn credu bod cyfrifiadura’n rhywbeth sy’n cael ei wneud dan do o flaen sgrin ac allweddell ond mae cynifer o ffyrdd o gymryd rhan mewn rhaglennu cyfrifiadurol ac electroneg sy’n gwneud cyfrifiadura’n llawn hwyl ac yn greadigol.”

Bydd yno academyddion a myfyrwyr eraill o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a fydd yn rhoi arddangosiadau ac yn cymryd rhan gyda’r cyhoedd a phobl eraill o ddisgyblaethau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) y Brifysgol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Technocamps, yr Athro Faron Moller o Brifysgol Abertawe: “Rydym am gael pobl ifanc ar hyd a lled Cymru’n gyffrous am gyfrifiadura a pha well ffordd o wneud hyn na dod â’r cyfan yn fyw yn yr awyr agored.

“Y gobaith yw y bydd pawb sy’n dod draw ac yn cymryd rhan yn y diwrnod ‘llawn hwyl’ hwn yn gadael eisiau dysgu a gwneud mwy o’r pethau cyfareddol y gallwch ei wneud gyda chyfrifiaduron.”

I gael rhagor o fanylion ar Labordy’r Traeth Technocamps, ewch i: http://www.beachlab2013.eventbrite.com/ neu cysylltwch â Lisa Fisher ar 01970 622454 / lisa.fisher@technocamps.com.

Technocamps - Mae Technocamps, dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg, yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a bydd yn canolbwyntio ar ystod o bynciau gan gynnwys roboteg, datblygu gemau a meddalwedd; yn ogystal ag animeiddio a gwyddor fforensig ddigidol.

Bydd Technocamps yn sefydlu rhaglen ar draws Cymru o weithgareddau a gweithdai a ddyluniwyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion (11-19) o ddarpar gyfleoedd gyrfa  mewn ystod o ddisgyblaethau cyfrifiadureg, technoleg a pheirianneg a’u hannog i astudio STEM gyda’r bwriad o fynd ar drywydd y fath gyfleoedd. Trowch at: www.technocamps.com neu www.itwales.com i gael mwy o wybodaeth.

Mae rhaglenni 2007-2013 gwerth £3.2bn y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru’n cynnwys y rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (yr olynydd i Amcan 1) a’r rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer Dwyrain Cymru. Cyflwynir y rhaglenni trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru a’u nod yw creu cyfleoedd gwaith a hybu twf economaidd.

 

AU18413