Moeseg Newyddiaduraeth
Gareth Jones
12 Mehefin 2013
Bydd yr athro mewn newyddiaduraeth o’r Unol Daleithiau, Ray Gamache, yn nodi 80 mlynedd ers i’r newyddiadurwr a’r cyn-fyfyriwr o Aberystwyth, Gareth Jones, adrodd ar yr Holodomor yn yr Wcráin, mewn darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 17 Mehefin, 2013.
Mae’r Athro Gamache, sydd hefyd yn gyn-newyddiadurwr, yn aelod o adran Cyfathrebu Torfol Coleg y Brenin, Pennsylvania.
Yn ei ddarlith "O Aberystwyth i Holodomor yr Wcráin - Moeseg Newyddiaduraeth", bydd yr Athro Gamache yn trafod dimensiynau moesegol adrodd ar newyn, fel ag sydd i weld yn yr erthyglau papur newydd gan Gareth Jones yn dilyn ei daith i'r Undeb Sofietaidd ym mis Mawrth 1933.
Yn enedigol o'r Barri yn Ne Cymru, bu Gareth Richard Vaughan Jones yn gweithio fel Ysgrifennydd Preifat ar Faterion Tramor i Lloyd George, ac roedd yn bresennol yn yr Almaen ar ddiwrnod sefydlu Adolph Hitler yn Ganghellor yr Almaen.
Adroddodd Jones ar y newyn achosodd filiynau o farwolaethau yn yr Wcráin yn 1932/3. Bu ef farw mewn amgylchiadau dirgel ym Mongolia Fewnol ym 1935, ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30ain.
Mae’r Athro Gamache yn awdur ar nifer o lyfrau, gan gynnwys A History of Sports Highlights: Replayed Plays from Edison to ESPN, a gyhoeddwyd yn 2010 gan McFarland Publishers, a The Water Is Wide: Notre Dame College’s Journey, 1976-2000, a gyhoeddwyd gan Wasg Luceat. Mae hefyd wedi golygu nifer o lyfrau, sy’n cynnwys Under the Bridge: Stories and Poems by Manchester’s Homeless and The Living Fire: Selected Poetry of Leo E. O’Neil, 1973-1997. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys cyfryngau chwaraeon a hanes newyddiaduraeth.
Mae'r ddarlith yn agored i aelodau o'r cyhoedd ac yn cael ei chynnal yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 6.00pm ar ddydd Llun 17 Mehefin, 2013.
au19413