Sioe gelf
Ruth Jên Evans sydd wedi bod yn gweithio ar glustnodau defaid
22 Mai 2013
Mae gweithiau celf gan oddeutu 70 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys y wneuthurwraig printiadau adnabyddus Ruth Jên Evans, i’w gweld ar hyn o bryd mewn arddangosfa yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r gwaith yn rhan o Sioe Radd yr Israddedigion ac Arddangosfa’r Uwchraddedigion 2013 sydd i’w gweld yn yr Ysgol Gelf tan ddydd Iau 30 Mai.
Mae Ruth Jên Evans, sydd yn adnabyddus am ei chyfres Menywod Cymreig, yn astudio am Radd Meistr mewn gwneud printiadau.
Er dwy flynedd mae wedi bod yn gweithio ar weithiau celf sy’n seiliedig ar glustnodau defaid yn ei hardal leol yng Ngheredigion sydd yn gyfuniad o argraffu a gwaith amlgyfrwng.
Dywedodd, “Mae'r clustnodau yn cael eu trosglwyddo i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn amrywio o fferm i fferm ac yn cael eu defnyddio i ddynodi perchenogaeth. Datblygodd y gwaith o ymchwil wnes i mewn i batrymau o frethyn a'r diwydiant gwlân yn ardal Tal-y-bont, ger Aberystwyth.
"Drwy siarad am wlân â ffermwyr yn yr ardal, daeth pwnc clustnodau i fyny ac yna dechreuais gasglu gwybodaeth amdanynt yn ardal Ceredigion.
"Ers astudio yn y Brifysgol, yr wyf wedi cael y cyfle i ddatblygu ac ymchwilio i waith newydd, ond yn bwysicach fyth, dwi wedi cael amser i feddwl ac arbrofi gyda dulliau a deunyddiau newydd.
“Mae'r darlithwyr yn rhoi llawer o'u hamser i fyfyrwyr, mae'r adran yn hynod broffesiynol o ran ei addysgu a'i adnoddau ac mae yma hefyd awyrgylch gynnes a chefnogol."
Yn ogystal ag arddangos gweithiau celf y myfyrwyr, mae yna arddangosfa o weithiau o gasgliad celf y Brifysgol. Curadwyd UGLY gan fyfyrwyr fel rhan o’u gwaith ar lwyfannu arddangosfeydd.
Esboniodd Yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth Ysgol Gelf y Brifysgol, "Mae’r arddangosfa ‘UGLY’ yn ystyried hagrwch o safbwynt cysyniadol, ac fel ffordd o drafod y themâu pydredd, tra-arglwyddiaeth, consiwmeriaeth a thrais. Drwy hwyluso deialog rhwng gweithiau celf sy'n rhychwantu chwe chanrif, rydym yn ceisio mynegi'r 'hagrwch’ sydd ddim yn amlwg yn y gweithiau pan fyddant yn cael eu hystyried yn unigol."
Mae rhai o’r gweithiau sydd yn cael ei arddangos, sy'n cynnwys printiau, darluniau, paentiadau olew a ffotograffau, ar werth ac yn amrywio mewn pris o £25 i £300.
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth tan 30 Mai ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Ysgol Gelf http://www.aber.ac.uk/en/art/ / teipiwch #uglyart ar Twitter neu ewch i dudalen Facebook Aberystwyth School of Art https://www.facebook.com/AberystwythSchoolofArt?fref=ts.
AU16613